Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adroddiad Perfformiad Blynyddol
Published: 15/10/2014
Fe drafodir perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2013-14 mewn cyfarfod or
Cabinet ddydd Iau 16 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad Blynyddol y
Cyngor.
Maer adroddiad yn adolygu cynnydd y Cyngor yn erbyn y blaenoriaethau a nodir
yn y Cynllun Gwella ac yn crynhoi cyraeddiadau’r sefydliad. Y llynedd,
llwyddodd y Cyngor:
· I gynorthwyo preswylwyr i reoli dyled o £7.27m, a diogelu £2.35m o incwm
ychwanegol
· I ostwng rhestrau aros therapi galwedigaethol gyda dros 90 y cant o bobl yn
teimlo bod “eu hanghenion wedi eu diwallu’n llawn”
· I gyflawni’r gyfradd boddhad cyffredinol uchaf gydag addysg gan Awdurdod
Lleol (Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2013/14)
· I ail-wynebu 22.6km o ffyrdd ac wedi trwsio 23.7km pellach
· I gefnogi i greu 838 o swyddi newydd o fewn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy
· I sefydlu cwmni rheoli eiddo or enw Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru er mwyn
ariannu datblygiad pellach o dai fforddiadwy
· I gefnogi mwy na 100 o bobl i ddod o hyd i waith drwy glybiau swyddi a
chyflogadwyedd mewn 6 or wardiau wardiau mwyaf difreintiedig yn yr ardal
· I gyd-leoli’r tîm cyntaf o Weithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol
a Nyrsys Ardaloedd yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
“Maer Cyngor wedi profi i fod yn sefydliad syn perfformio, yn gosod targedau
ac yn diwallu’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Gwella. Wrth i’r Cyngor
wella flwyddyn ar ôl blwyddyn, maen golygu bod gwasanaethau i drigolion yn
gwella drwyr amser.”
Trefnwyd cyfarfod arbennig o Gyngor Sir y Fflint ar gyfer 22 Hydref i ofyn am
gymeradwyaeth y cynghorwyr i’r adroddiad. Unwaith y caiff yr adroddiad ei
gyhoeddi, bydd ar gael ar wefan y Cyngor ac fe Gynhyrchir copïau papur fel y bo
angen.
Bydd dogfennau ategol syn darparu gwybodaeth fwy manwl ar gael hefyd. Caiff
crynodeb or adroddiad ei gynnwys o fewn yr e-gylchgrawn Eich Cyngor.