Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hyn
Published: 22/10/2014
Ar 1 Hydref cynhaliwyd dathliad arbennig yn Neuadd Ddinesig Cei Connah i nodi
Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hyn.
Fe ddaeth nifer o bobl hyn o bob cwr o’r sir i’r digwyddiad a oedd yn
canolbwyntio ar ddathlu a phrofi’r ystod o weithgareddau sydd ar gael yn Sir y
Fflint i hyrwyddo Pum Ffordd at Les.
Agorwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Christine Jones, Cefnogwr Pobl Hyn ac
Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol; Neil Ayling, Prif Swyddog y
Gwasanaethau Cymdeithasol; a Daisy Cole, Cyfarwyddwr Lles a Grymuso Swyddfa
Comisiynydd Pobl Hyn Cymru.
Hefyd yn bresennol oedd yr Arglwydd ar Arglwyddes Jones a Hilary Jones o
Iechyd Cyhoeddus Cymru a roddodd gyflwyniad ar y Pum Ffordd at Les.
Roedd gweithgareddau’r diwrnod yn cynnwys Tai Chi, sgiliau cymorth cyntaf
sylfaenol, sesiynau iPad ar gyfer dechreuwyr a’r rhai mwy technolegol, sesiynau
cerdded, gweithdai gwau a ffeltio, sesiynau bwyd a gweithdy celf gydar artist
lleol Stuart Steen.
Roedd yna hefyd stondinau gwybodaeth yn hyrwyddo sefydliadau syn helpu i gadw
pobl hyn yn ddiogel ac yn darparu cefnogaeth a chyngor am ystod o faterion gan
gynnwys cynnal annibyniaeth a lles.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones: “Roedd y digwyddiad yma’n ffordd wych o
nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hyn Sir y Fflint. Roedd y pwyslais ar les wedi
arwain at weithgareddau da iawn.
“Roedd yn hyfryd gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan yn y dathliad ac rydw i’n
siwr bod llawer o bobl wedi gwneud ffrindiau newydd yn ystod y dydd. Diolch i
bawb a drefnodd y digwyddiad ac a wnaeth y diwrnod yn llwyddiannus – roedd yn
ddiwrnod ardderchog.
Maer diwrnod arbennig yma’n cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd ar
Cenhedloedd Unedig fel cyfle blynyddol i atgoffa pobl am gyfraniadau, sgiliau a
llwyddiannau pobl hyn. Cafodd y digwyddiad yn Sir y Fflint ei ariannu gan
Strategaeth Pobl Hyn Sir y Fflint.
Pennawd Llun 1: o’r chwith i’r dde, Neil Ayling (Prif Swyddog Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint), Yr Arglwydd Barry Jones, Y Cynghorydd
Christine Jones (Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint),
Y Cynghorydd Paul Shotton, a Pamela Attridge.
Pennawd Llun 2: Pobl hyn yn cymryd rhan mewn gweithdy defnyddio iPad.