Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdai Darlun Mawr

Published: 16/10/2014

Gall pobl leol yn Sir y Fflint gymryd rhan yng ngwyl arlunio fwyaf y byd trwy weithdai celf a gaiff eu cynnal mewn llyfrgelloedd ar draws y Sir. Bydd yr artist Ben Davis yn helpu i greu cerfluniau o gardiau a darluniau i ddathlur Darlun Mawr ar y thema ‘Ein Byd Ni. Maer gweithdai teulu yn addas i bob oedran a gallu, a byddant yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau cerflunio o gerdyn, arlunio a pheintio. Dydd Sadwrn 18 Hydref yn Llyfrgell y Fflint - 9.30am - 11.30am Dydd Sadwrn 18 Hydref yn Llyfrgell yr Wyddgrug – Gwyl Daniel Owen – 1pm – 3pm Dydd Sadwrn 25 Hydref ym Mharc Gwepra, Cei Connah - 10.00am – 12 hanner dydd ac 1pm – 3pm Mae’r Darlun Mawr 2014 yn rhedeg o 1 Hydref - 2 Tachwedd ar draws y DU ac mewn 20 o wledydd eraill, a disgwylir i 280,000 o bobl ymuno mewn dros 1000 a mwy o ddigwyddiadau. Maen cynnig miloedd o weithgareddau arlunio difyr, ac yn rhad ac am ddim yn bennaf, syn cysylltu pobl o bob oed gydag amgueddfeydd, mannau awyr agored, artistiaid, dylunwyr, darlunwyr ai gilydd. Mae Adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth âr Gwasanaeth Cefn Gwlad a Llyfrgelloedd Cyhoeddus yn ogystal âr Ymgyrch Celfyddydau Teulu am yr ail flwyddyn i greu Gwyl Gelfyddydau’r Teulu mwyaf y DU sy’n digwydd yn ystod hanner tymor yr hydref o 17 Hydref - 2 Tachwedd. Maer holl weithdai yn £2 y ??plentyn gydag oedolion sy’n dod gyda hwy am ddim - maen hanfodol cadw lle gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig. I archebu lle ar unrhyw un or gweithdai neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch âr Adran Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau ar 01352 704400. Nodyn i olygyddion Mae rhagor o wybodaeth a lluniau ar gael yn www.thebigdraw.org/press