Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Meddwl am fwyta allan y Nadolig hwn?
Published: 07/11/2014
Os ydych chin cynllunio’r pryd bwyd Nadolig arbennig hwnnw gyda chydweithwyr,
ffrindiau neu deulu, hoffai’r Asiantaeth Safonau Bwyd eich atgoffa i ‘edrych
cyn archebu.
Maer Nadolig yn amser i fwynhau cwmni da a bwyd da heb boeni am wenwyn bwyd.
Ond y gwir yw, ni allwch ddweud beth yw safonau hylendid bwyty yn ôl pa mor lân
a thacluso maer staff yn edrych neu drwy ba mor brysur yw hi.
Y pethau na fedrwch chi eu gweld - fel germau sy’n cael eu lledaenu gan
arferion hylendid gwael - sydd angen i chi eu hystyried. Mae un ffordd hawdd i
dawelu’ch meddwl - edrychwch ar y sgôr hylendid bwyd.
Maer sgôr hylendid bwyd yn dweud wrthych am safonau hylendid mewn bwytai a
busnesau bwyd eraill. Maen hawdd iawn i’w wirio. Ewch ar-lein a gwiriwch wefan
yr Asiantaeth Safonau Bwyd: www.food.gov.uk/ratings neu os ydych chi hwnt ac
yma cadwch lygad am y sticer gwyrdd a du; os na fedrwch chi weld un, holwch.
Caiff y graddau eu penderfynu gan swyddogion diogelwch bwyd yr awdurdod lleol
ac maent yn mynd o 0 -5, gyda graddfa 5 yn golygu lefel dda iawn o hylendid
bwyd. Ers mis Tachwedd y llynedd, mae’n ofynnol i fusnesau bwyd yng Nghymru yn
ôl y gyfraith i arddangos eu sticer sgôr yn dilyn arolygiad. Mae bron i 93 y
cant o fusnesau bwyd â gradd 3 neun well, felly mae yna ddigon o lefydd gyda
safonau da a gallwch yn hawdd osgoi mynd â’ch teulu ir rhai nad ydynt yn
bodloni’r safonau. Os nad ydych yn gweld sticer gwyrdd a du yn y ffenestr neu
os gwelwch sgôr isel ar-lein, gallwch wneud dewis mwy gwybodus.
Mae Nina Purcell, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, yn
cytuno: Y Nadolig hwn, gwnewch yr un peth hwn i gael tawelwch meddwl wrth fwyta
allan. Cymerwch eiliad i edrych ar y sgôr hylendid bwyd, dewiswch y lle iawn, a
mwynhau pryd o fwyd gwych allan.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Strategaeth Wastraff, Diogelur Cyhoedd a Hamdden: Maen hawdd i bobl yn Sir y
Fflint wirio sgoriau hylendid ar-lein a dewis bwyty syn cymryd hylendid bwyd o
ddifrif ar gyfer eu partïon Nadolig. Mae hwn yn gyfnod pwysig i fusnesau lleol.
Mae sgôr hylendid bwyd da yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac maen bwysig i
ddefnyddwyr. Mwynhewch y Nadolig ond bwytewch yn ddiogel.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
www.food.gov.uk/business-industry/caterers/hygieneratings