Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant i Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014

Published: 23/10/2014

Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014 wedi bod yn llwyddiant ysgubol am yr wythfed flwyddyn yn olynol, wrth i bobl heidio i 18 o ddigwyddiadau a gweithdai sy’n profi fod Sir y Fflint wedi ymsefydlu ei hun fel lle i wneud busnes. Yr uchafbwyntiau eleni oedd yr agoriad swyddogol ddydd Mawrth gyda Mark Berrisford-Smith, Prif Economegydd o HSBC yn rhoi sgwrs dan y teitl Cyflwr y Genedl; Airbus yn dathlu 75 mlynedd ym Mrychdyn; cynhadledd menter gymdeithasol yng Ngholeg Cambria a digwyddiadau rhwydweithio ddydd Gwener rhwng busnesau Sir y Fflint a Wrecsam. Yr arddansgofa fusnes, a noddwyd gan gwmni Westbridge Furniture Designs, oedd y fwyaf o’i bath yng ngogledd Cymru gyda dros 70 o stondinau yn arddangos cwmnïau a gwasanaethau o bob rhan o’r rhanbarth. Roedd y gweithdai a’r seminarau’n cwmpasu’r gadwyn gyflenwi a marchnata gyda 160 o bobl yn bresennol yn y seminar fusnes Arloesedd yr MDA. Daeth yr wythnos fusnes i ben gyda digwyddiad poblogaidd y Gwobrau Busnes, a gefnogwyd gan gwmni AGS Security o’r Wyddgrug, ac a gynhaliwyd yn Soughton Hall ar nos Wener 17 Hydref. Meddai’r Cynghorydd Derek Butler, Aelod o’r Cabinet dros Ddatblygu Economaidd: “Mae Wythnos Fusnes Sir y Fflint wedi dod â channoedd o fusnesau at ei gilydd unwaith eto drwy’r bartneriaeth unigryw a llwyddiannus rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Rydym wedi cael digwyddiadau a seminarau gwych ac ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch o galon i’n holl noddwyr a’r partneriaid sy’n gweithio mor galed gyda thîm Busnes y Cyngor i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Cynhaliwyd Wythnos Fusnes Sir y Fflint 2014 o 7 - 17 Hydref: www.flintshirebusinessweek.co.uk. Ceir manylion am Wobrau Busnes Sir y Fflint ar wefan www.flintshirebusinessawards.co.uk