Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ar enillydd yw....
Published: 29/10/2014
Mae enillwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint eleni wedi eu cyhoeddi. Bellach yn eu
hwythfed flwyddyn, maer Gwobrau yn cydnabod y cwmnïau mwyaf llwyddiannus ac
syn tyfu gyflymaf yn y sir a’r entrepreneuriaid y tu ôl iddynt.
Rhoddwyd gwobrau mewn seremoni yn Neuadd Sychdyn ddydd Gwener diwethaf 17
Hydref mewn deg categori a noddwyd gan gwmnïau lleol, a llawer ohonynt yn
enillwyr o’r gorffennol.
Roedd hin noson wych i Paul Rutt a B2 Group. Enillodd y Prif Swyddog
Gweithredol wobr Person Busnes y Flwyddyn ac enillodd ei gwmni, Deiliaid Hawl
Serocs blaenllaw, a ffurfiwyd yn 1991, wobr Busnes y Flwyddyn gyda hyd at 50 o
weithwyr.
Aeth gwobr yr Amgylchedd i gwmni P&A Group o’r Wyddgrug, cwmni tirlunio gerddi
sydd wedi ennill gwobrau. Enillodd Sean Finley, hyfforddai yn MPI Aviation Ltd
y wobr Prentisiaeth. Enillodd Jones Environmental Laboratory, cwmni fforensig
ym Mhenarlâg, wobr Allforiwr y Flwyddyn ac aeth y wobr Gweithgynhyrchu i
Unifrax Emission Control Europe Ltd.
Aeth gwobr Busnes y Flwyddyn gyda dros 50 o weithwyr i FTS Hatswell, cwmni
storio a dosbarthu yng Nglannau Dyfrdwy ac aeth y wobr Arloesedd i Wagtail for
Conservation Dogs, canolfan i hyfforddi cwn gwrth-botsio a chanfod bywyd
gwyllt. Maer wobr Cymdeithasol a Chymunedol yn mynd i PentrePeryglon, canolfan
gweithgareddau addysgol dan do yn Nhalacre ac yn olaf aeth y wobr Busnes Newydd
i The Boardroom Climbing, wal ddringo dan do yn Queensferry sydd newydd ddathlu
ei ben-blwydd cyntaf.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Mae Gwobrau Busnes Sir y Fflint yn cydnabod y safon uchel o fusnesau yn yr
ardal. Maen ffordd wych i gloi Wythnos Fusnes Sir y Fflint drwy ddathlu
llwyddiannau lleol gwych. Llongyfarchiadau in holl enillwyr a diolch yn fawr
ir noddwyr sydd yn helpu i wneud y gwobrau yn fwy ac yn well bob blwyddyn.
Dywedodd Jonathan Turner, rheolwr gyfarwyddwr AGS Security Systems, prif noddwr
y gwobrau eleni, a noddwr gwobr Person Busnes y flwyddyn: “Maen wych clywed
cymaint o lwyddiannau yn y rhanbarth, a chael ein hamgylchynu gan gynifer o
fusnesau llewyrchus.
“Ar ran pawb yn AGS Security, hoffwn longyfarch yr holl enillwyr ac rwyn
edrych ymlaen at gefnogi busnesau Sir y Fflint yn y dyfodol.
Mae enillwyr a noddwyr y deg categori wedi eu rhestru isod:
Gwobr Noddwr Enillydd
Person busnes y flwyddyn AGS Security Systems
Paul Rutt
B2 Group
Gwobr Prentisiaeth Coleg Cambria Sean Finley
MPI Aviation Limited
Gwobr Amgylchedd Porthladd Mostyn
P & A Group
Gwobr Allforiwr y Flwyddyn Knauf Insulation
Jones Environmental Laboratory
Gwobr Arloesi Prifysgol
Glyndwr Wagtail - Conservation
Dogs
Busnes y Flwyddyn hyd at 50 Ffederasiwn y Busnesau Bach B2
Group
Gwobr Cymdeithasol a Chymunedol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
PentrePeryglon
Gwobr Gweithgynhyrchu Edge
Transport Unifrax Emission Control Europe
Ltd
Busnes y Flwyddyn dros 50 Pochin FTS Hatswell
Gwobr Busnes Newydd DSG
The Boardroom Climbing
I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Busnes Sir y Fflint cysylltwch â Kate
Catherall ar 01352 703221 neu edrychwch ar y
wefan www.flintshirebusinessweek.co.uk
Capsiynau lluniau
Gwobr Gweithgynhyrchu - Jonathan Edge - Edge Transport (noddwr) Alan Blythe -
Unifrax Emission Control Europe Ltd (enillydd), Nikki Edge - Edge Transport
(noddwr)
Gwobr Arloesedd a Chreadigrwydd – Aran Clyne a Louise Wilson o Wagtail -
Conservation Dogs (enillydd) a’r Athro Chris Jones o Brifysgol Glyndwr (noddwr)
Yr Enillwyr – Enillwyr Gwobrau Busnes Sir y Fflint
Gwobr Prentisiaeth – John Herbert o MPI Aviation Ltd, enillydd y wobr Sean
Finley o MPI Aviation Ltd a David Jones o Goleg Cambria (noddwr)
Person Busnes y Flwyddyn - Paul Rutt, Prif Swyddog Gweithredol B2 Group, a
enillodd Busnes y Flwyddyn gyda hyd at 50 o weithwyr hefyd a Jonathan Turner o
AGS Security Systems (Noddwr)
Gwobr Cymdeithasol a Chymunedol - Julie Cowley - Bwrdd Uchelgais Economaidd
Gogledd Cymru, Sgiliau a Chyflogaeth (noddwr), Nicola Attewell a Victoria
Burrows o PentrePeryglon (enillwyr)
Gwobr busnes newydd - Lee Browning a David Thomas o The Boardroom Climbing
(Enillydd) a Jean Ellis o DSG (Noddwr)
Busnes y Flwyddyn gyda dros 50 o weithwyr - Bob Nicholson o Pochin’s (noddwr),
Dave Rothewell a Keith Mitchell o FTS Hatswell (enillwyr)
Gwobr yr Amgylchedd - Steve Morgan o P&A Group (enillydd) a Jim OToole o
Borthladd Mostyn (noddwr)
Busnes y Flwyddyn o dan 50 o weithwyr - Tom Smith o B2 Group (enillydd) a
Graham Jones or Ffederasiwn Busnesau Bach (noddwr)
Allforiwr y Flwyddyn - Howard Jones a Janet Jones o Jones Environmental
Laboratory (enillydd) a Mark Lewis o Knauf Insulation (noddwr)