Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweithdy mapiau archifol

Published: 22/04/2014

Dyma gyfle ichi gael gwybod mwy am yr amrywiaeth eang o fapiau a gedwir yn Archifdy Sir y Fflint mewn gweithdy archifol. Mae mapiau’n adnodd cyfoethog sy’n darparu gwybodaeth a all helpu gyda hanes tai, hanes teuluol, prynu eiddo a hyd yn oed faterion terfynau cyfreithiol a mynediad. Bydd y gweithdy’n sôn am y mathau o fapiau y mae’r Archifdy’n eu cadw, yn dangos mwy am eu hanes ac yn egluro sut y gellwch gael y defnydd mwyaf ohonynt yn eich ymchwil. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer dechreuwyr ac ymchwilwyr profiadol ac fe’i cynhelir yn Archifdy Sir y Fflint, Yr Hen Reithordy, Penarlâg ar ddydd Sadwrn 10 Mai o 11 y bore tan 1 y prynhawn. Mae archebu’n hanfodol gan fod lleoedd yn brin, gyda’r gost yn £10 y pen. Ffoniwch 01244 532364 neu e-bostiwch archives@flintshire.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.