Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Enillydd cystadleuaeth swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu

Published: 06/11/2014

Gwahoddwyd enillydd cystadleuaeth a drefnodd Cyngor Sir y Fflint i gyfarfod ag aelod cabinet y Cyngor dros Addysg yn Llyfrgell Cei Connah, wedi iddi ysgrifennu llythyr yn diolch i staff y llyfrgell. Enillodd Felicity Birch, naw oed, docyn bowlio deg i’r teulu i ddathlu agoriad swyddogol Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu a Llyfrgell Cei Connah yn gynharach eleni. Mae Felicity yn ymweld yn rheolaidd â’r llyfrgell ac roedd wrth ei bodd gyda’i gwobr. Yn ei llythyr, dywedodd: “Hoffwn ddweud mor falch a llawn cyffro oeddwn pan ddywedodd Mam wrthyf fy  mjod i wedi ennill gwobr. Rwyf wrth fy modd yn bowlio deg felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at fynd gyda fy nheulu. “Hoffwn ddweud diolch yn fawr iawn i holl staff y llyfrgell a threfnwyd y gystadleuaeth. Cewch wybod sut hwyl gawson ni pan fyddaf yn newid fy llyfrau llyfrgell. (Fi fydd yn ennill bgobeithio) gan Felicity.”Byddaf yn I would like to say a big thank you to all the library staff and the competition organisers. I will let you know how I get on when I next change my library books. “(Hopefully I will win the game of bowling).                                                                             Oddi wrth Felicity.” Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg gyda Felicity a’i brawd bach, Fynnlay, am y wobr gan ddweud: “Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â Felicity a’i theulu a chael clywed am ei thrip bowlio deg. Roedd y gystadleuaeth yn ffordd wych o annog plant i ddefnyddio’r llyfrgell a byddwn yn annog pob rhiant i ymuno â’r llyfrgell leol i ennyn diddordeb eu plant mewn llyfrau.  Mae Llyfrgell Cei Connah hefyd yn rhan o swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu sy’n cynnig cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor.” Daeth plant ysgol lleol i brynhawn agored yn gynharach yn y flwyddyn yng Nghanolfan y Llyfrgell, Arddangosfa Treftadaeth a Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu yn dilyn seremoni agoriadol yn y bore pan ddaeth y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, i dorri’r rhuban. Mae Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu ar Wepre Drive ac yno, gellir defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, Llyfrgell Cei Connah a’r Ganolfan Dysgu a’r Arddangosfa Treftadaeth newydd. Dyma amseroedd agor y cyfleusterau newydd: Dydd Llun a dydd Mawrth – 8.30am tan 7pm Dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener – 8.30am tan 5.30pm Dydd Sadwrn – 9am – 12pm Llun: o’r chwith i’r dde: Cyngh Chris Bithell, yr Aelod Cabinet dros Addysg,  Nicky Drury o Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu, Felicity Birch (enillydd), Fynnlay White a Phillippa Birch.