Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Genedlaethol Defnyddwyr

Published: 03/11/2014

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Sir y Fflint, ar y cyd ag asiantaethau partner, yn cynnal digwyddiad i gefnogi thema’r Wythnos Genedlaethol Defnyddwyr eleni sef ‘Byddwch yn gymydog da, rhowch wybod am fansachwyr ffug’. Bob blwyddyn mae’r Sefydliad Safonau Masnach yn hyrwyddo problem benodol ac mae’r thema eleni yn rhoi pwyslais ar roi gwybod am amheuon a phryderon i’r awdurdodau a chydweithio i hyrwyddo cymunedau mwy diogel. Yn aml pan na fydd pobl yn rhoi gwybod am broblemau, gallant waethygu. Drwy roi gwybod am amheuon mae pobl leol yn darparu gwybodaeth werthfawr y gellir ei defnyddio i ddatrys problemau. Mae’r ymgyrch hon yn gyfle i greu cymunedau gwell a mwy diogel gyda’i gilydd. Mae’r tîm Safonau Masnach yn gweithio ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint sy’n cynnwys y Cynllun Gwarchod Cymdogaeth, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a gan fod y mater yn agos i galonau llawer o sefydliadau, mae’r tîm a’r Grwp Gostwng Troseddau ar y Trothwy wedi penderfynu cynnal digwyddiad i’r gymuned i hyrwyddo’r ymgyrch a darparu llawer o wybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddol i drigolion Sir y Fflint. Cynhelir y digwyddiad ar 6 Tachwedd o 10am tan 4pm yn Neuadd Ddinesig Cei Connah ac mae croeso i bobl o bob cwr o Sir y Fflint i drafod eu pryderon gyda nifer o wahanol sefydliadau gan gynnwys y Gwasanaeth Safonau Masnach, Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Sir y Fflint a Wrecsam, Heddlu Gogledd Cymru, Cymorth i Ddioddefwyr a Gofal a Thrwsio Sir y Fflint. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae digwyddiadau fel hyn yn bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r gymuned. Os yw’r gymuned ac asianaethau gorfodi yn cydweithio gall wneud Sir y Fflint yn lle mwy diogel a gwell i bawb fyw ynddo.”