Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cofeb newydd i blant

Published: 07/11/2014

Mae cofeb i gofio am blant a babanod wedi’i chodi ym mynwent Celstryn. Mae Gwasanaeth Profedigaeth Sir y Fflint wedi codi’r gofeb fel rhan o safle claddu plant i gofio plant o bob rhan o’r Sir. Gall teuluoedd brynu placiau i’w gosod ar y gofeb farmor i gofio am eu hanwyliaid. Mae’r gofeb ar bedastal ac ar batio tawel lle gall teuluoedd fyfyrio. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros y Strategaeth Gwastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Dyma’r gofeb gyntaf o’i math yn Sir y Fflint a bydd yn creu lle penodol i deuluoedd gofio am eu plant a’u babanod.” I gael rhagor o wybodaeth am y gofeb, ffoniwch y Gwasanaeth Profedigaeth ar 01352 703360. Llun: Y Cynghorydd Kevin Jones wrth y Gofeb Plant ym Mynwent Celstryn.