Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofalwyr maeth yn dathlu Calan Gaeaf

Published: 04/11/2014

Ddydd Mawrth 28 Hydref fe ddathlodd gofalwyr maeth Sir y Fflint fis Meibion a Merched y Rhwydwaith Maethu gyda thaith a oedd yn ddigon i godi gwallt eich pen. Trefnwyd y daith i AppleJacks Farm ‘Spooky World’ fel ffordd o ddiolch i blant gofalwyr maeth lleol am y rôl bwysig y maen nhw’n chwarae i helpu plant mewn gofal. Mae grwp Stepping Stones, a drefnwyd gan Wasanaeth Maethu Sir y Fflint, yn trefnu taith pob gwyliau ysgol i’r plant. Dywedodd Becky, gofalwr maeth yn Sir y Fflint: “Mae’r diwrnodau yma’n wych, mae llawer o’r sylw dyddiol yn cael ei roi ar y plentyn maeth, felly maen braf rhoi rhywfaint o amser i’r plant eraill. Maen nhw’n aberthu llawer ac yn gwneud llawer or gwaith.” Erbyn hyn mae gan wasanaeth maethu Cyngor Sir y Fflint 111 gofalwr maeth, sef y nifer mwyaf erioed. Fodd bynnag, mae ar y Cyngor angen mwy. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydym ni’n gwybod y rôl bwysig y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae wrth wneud i’r plant maeth deimlon hapus ac yn ddiogel, yn enwedig pan fyddan nhw’n cyrraedd am y tro cyntaf ac yn ofnus. Maen nhw’n rhannu mam, dad, teganau a chartref ac maen nhw weithiau yn gorfod colli allan ar bethau y mae arnyn nhw eisiau eu gwneud. Ond, mae’r teithiau yma’n un ffordd o ddiolch iddyn nhw. Mae’r Gwasanaeth Maethu yn chwilio am fwy o bobl sydd wedi magu eu plant eu hunain, neu sydd â llawer o amser ac egni i’w roi i blant sydd wedi colli allan ar bethau y maer rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol i ddod yn ofalwyr maeth (does dim rhaid i chi fod wedi cael plant). Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth, dewch draw i noson wybodaeth nos Fawrth 18 Tachwedd am 7pm yn ‘Gateway to Wales’ Days Hotel ger Queensferry. I wybod mwy ewch i’r wefan maethu newydd www.flintshirefostering.org.uk. Pennawd y Llun: Gofalwyr maeth, plant a gweithwyr cymdeithasol yn mwynhau taith Calan Gaeaf.