Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynlluniau i Ailddatblygu Y Fflint

Published: 06/11/2014

Bydd cynlluniau arfaethedig ar gyfer ailddatblygu safleoedd y maisonettes yn y Fflint yn cael eu harddangos mewn digwyddiad cyhoeddus yn y dref yr wythnos nesaf. Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal y digwyddiad cyhoeddus yn yr Hen Lys, Y Fflint ddydd Llun 10 Tachwedd o 12pm tan 7pm i ddangos taith rithwir i’r gymuned leol a fydd yn rhoi syniad iddynt o olwg a theimlad y dref yn dilyn yr ailddatblygiad. Mae’r cynigion yn seiliedig ar Uwchgynllun y Fflint a gadarnhawyd yn 2012 ac ar adborth o ddigwyddiadau ymgynghori blaenorol. Rhoddodd rhanddeiliaid, gan gynnwys trigolion a busnesau lleol, eu barn am gryfderau a heriau’r dref gan gynnwys ymddangosiad ffisegol gwael y maisonettes a’r angen i sicrhau fod ardaloedd y dref yn cael eu cysylltu’n well. Cyflwynir y cynigion ar ffurf model 3d ar sgrin fawr a fydd yn dangos gosodiad arfaethedig y tai newydd, ffyrdd, mannau cyhoeddus ac adeiladau allweddol. Nod y cynigion yw datblygu y Fflint fel tref hyfyw a deniadol sy’n gwasanaethu anghenion y gymuned bresennol yn well a hefyd fel tref sy’n gallu denu pobl o’r tu allan i’r dref. Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai: “Hoffem wahodd pobl y Fflint draw i’r digwyddiad galw heibio a mynd ar daith rithwir drwy’r cynigion newydd gwych. “Bydd digon o gyfleoedd i holi cwestiynau a rhoi adborth i’r Cyngor Sir, a bydd adborth o’r sesiwn hon yn cael eu cymryd i ystyriaeth wrth gadarnhau’r cynigion datblygu.”