Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Archwiliwch eich Archifdy

Published: 06/11/2014

Fel rhan o ymgyrch genedlaethol Archwiliwch eich Archifdy, mae Archifdy Sir y Fflint wedi creu arddangosfa sy’n ymroddedig i ddynion Sir y Fflint a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd yr arddangosfa ar agor yn yr Archifdy, Lôn y Rheithordy ym Mhenarlâg o 10 - 14 Tachwedd a bydd yn cynnwys gweithdy o dan y teitl Olrhain Eich Cyndadau o’r Rhyfel Byd Cyntaf ddydd Mercher 12 Tachwedd o 2.30pm tan 3.30pm. Bydd y gweithdy yn esbonio sut i ymchwilio i hanes milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf drwy ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol ac oddi ar y we. Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly rhaid neilltuo lle – cysylltwch â archives@flintshire.gov.uk neu 01244 532364. Nodyn i Olygyddion Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o ymgyrch Archwiliwch eich Archifdy a arweinir gan y Gymdeithas Archifau a Chofnodion a’r Archifdy Cenedlaethol. Yng Nghymru, mae’r ymgyrch yn ffurfio rhan o Strategaeth Farchnata Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Archifdai 2011-14.