Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Twyll Ad-daliad

Published: 10/11/2014

Hysbyswyd tîm Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint bod trigolion y sir yn derbyn nifer o alwadau ffôn gan bobl yn honni eu bod yn gweithio i’r Cyngor. Mae’r galwyr digroeso yma’n hysbysu trigolion eu bod yn gymwys i gael ad-daliad a dywedwyd wrth un preswylydd fod ei eiddo wedi ei ail-fandio a’i fod yn gymwys i gael ad-daliad. Mae’r twyllwyr yma’n ceisio annog pobl i ddarparu eu manylion banc ac mae ar Gyngor Sir y Fflint eisiau ei wneud yn glir i drigolion na fyddan nhw byth yn cysylltu â neb dros y ffôn i roi gwybod eu bod yn gymwys i gael ad-daliad. Yn hytrach, byddair Cyngor yn ysgrifennu at drigolion neu byddair swm yn cael ei ad-dalu’n awtomatig i gyfrif banc sydd gan y Cyngor gofnod ohono. Mae ar Safonau Masnach Sir y Fflint eisiau atgoffa trigolion i beidio â darparu manylion personol neu fanc i unrhyw alwr digroeso heb wirio dilysrwydd y galwr yn drylwyr. Defnyddiwch rif ffôn o ffynhonnell ddibynadwy, nid gan alwr digroeso. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Gwastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Hoffwn annog pawb i fod yn wyliadwrus o’r mathau yma o dwyll a gweithgareddau troseddol wrth i ni nesáu at y Nadolig. Os ydych chi’n ansicr o unrhyw beth peidiwch â darparu unrhyw fanylion, a rhowch wybod i’r sefydliad perthnasol neu ffoniwch Safonau Masnach. Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiad i Gyngor i Ddefnyddwyr ar 03454 04 05 06.