Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Meysydd Chwarae Cymru - Maes Chwaraer Santes Fair

Published: 12/11/2014

Mae maes chwarae yn yr Wyddgrug wedi derbyn statws mawreddog er mwyn diogelu’r defnydd a wneir o’r tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae maes chwarae’r Santes Fair wedi ennill statws Brenhines Elizabeth II gan Feysydd Chwarae Cymru, sef y Gymdeithas Genedlaethol Meysydd Chwarae gynt, sy’n golygu y caiff y parc ei ddiogelu fel man agored cyhoeddus. Mae gweithred a gytunwyd rhwng y tirfeddianwyr, Cyngor Sir y Fflint a Meysydd Chwarae Cymru yn golygu y bydd y tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwarae yn yr awyr agroed, chwaraeon a gweithgareddau hamdden yn unig. Meddai’r Cynghorydd Kevin Jones, Aelod o’r Cabinet dros y Strategaeth Wastraff, Diogelu’r Cyhoedd a Hamdden: “Mae’r elusen wedi diogelu nifer o feysydd chwarae a mannau awyr agored ledled Sir y Fflint gyda help y Cyngor ac asiantaethau partner. “Mae’n golygu fod raid i’r tir gael ei ddefnyddio gan y gymuned leol ar gyfer gweithgareddau hamdden ac mae’n bwysig iawn fod pawb yn cael y lle hwn i gerdded, rhedeg, chwarae a mwynhau’r awyr agroed.” Edrychwch ar wefan www.fieldsintrust.org am fwy o wybodaeth. Yn y llun o’r chwith i’r dde: Y Cynghorydd Anthony Parry, y Cynghorydd Robin Guest, y Cynghorydd Kevin Jones ac Alan Roberts o Gyngor Sir y Fflint. FBH_2662 copy.jpg