Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad Taith Gyfnewid Ieuenctid i Siapan
Published: 13/11/2014
Cafwyd cyflwyniad rhagorol gan fyfyrwyr Sir y Fflint a deithiodd i Japan ar
Daith Gyfnewid Ieuenctid Optec Sir y Fflint 2014 am eu profiadau mewn noson
agored ar gyfer ymweliad y flwyddyn nesaf.
Gwahoddwyd pobl ifanc a oedd â diddordeb mewn gwneud cais i fynd ar daith
gyfnewid 2015, a redir gan y Cyngor, i gyfarfod yr wythnos diwethaf yn Neuadd y
Sir i ddysgu mwy am y rhaglen.
Ym mis Gorffennaf, daeth chwech o fyfyrwyr o Japan i aros gyda myfyrwyr o Sir y
Fflint a’u teuluoedd cyn mynychu derbyniad dinesig a gyflwynwyd gan Gadeirydd
Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Glenys Diskin. Treuliodd y myfyrwyr o Japan
bythefnos yn ymweld â chestyll Cymreig, Lerpwl a Llundain, a buont yn cymryd
rhan mewn gweithdai ac ym mywydau ac arferion bob dydd eu teuluoedd llety.
Pythefnos yn ddiweddarach teithiodd y myfyrwyr o Sir y Fflint i Japan i aros yn
nhrefi Murats, Kawasaki a Zao yn Rhaglawiaeth Miyangi gyda’u teuluoedd llety
Japaneaidd.
Bu’r myfyrwyr o Sir y Fflint, Lucy Seddon, Mia Smith, Matthew Pugh, Theo Smith,
William Roberts, a Hayden Hughes yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau lle
cawsant eu cyflwyno i sgiliau ac arferion sy’n gyfarwydd i ddiwylliant
Japaneaidd. Aethant i ymweld â Tokyo, cysegroedd, lleoedd o harddwch naturiol
a chawsant eu cyflwyno i hyfforddiant Samurai ymhlith nifer o weithgareddau
eraill.
Meddai’r Cynghorydd Diskin, a gyflwynodd y noson a rhoi araith groesawu: “Mae
hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc Sir y Fflint weld gwahanol ddiwylliant, byw
gyda theuluoedd lleol a gwneud ffrindiau am oes.
“Cytunodd rhieni Sir y Fflint ei fod wedi bod yn ‘brofiad bythgofiadwy’ i’r
teulu cyfan ac mae’r myfyrwyr o Japan yn cael cyfle i ymweld â Chymru - mae’r
daith gyfnewid gyfan yn brofiad ardderchog i bawb dan sylw.”
Mae Ymddiriedolaeth Taith Gyfnewid Japan Optec Sir y Fflint yn ariannu canran
uchel o ochr Sir y Fflint y rhaglen gyfnewid gan gynnwys tocynnau awyren y
myfyrwyr.
Cydgysylltir y daith gyfnewid gan Gyngor Sir y Fflint ac mae ar agor i bob
myfyriwr 16 - 18 oed sydd mewn addysg llawn amser mewn ysgol neu goleg yn Sir y
Fflint ar 1 Medi 2014. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw dydd Gwener
21 Tachwedd.
Am fwy o wybodaeth neu ffurflenni cais, cysylltwch â Beth Ditson, Cydgysylltydd
Taith Gyfnewid Japan ar 07786 523 601 neu Paula Jones ar 01352 704400 neu
e-bostiwch beth.ditson@flintshire.gov.uk
Digwyddiad Taith Gyfnewid Japan i Ieuenctid 4.11.14.JPG