Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Clwb Celf Bach

Published: 13/11/2014

Clwb celf i blant 7-11 oed o bob rhan o’r Gogledd yw Criw Celf Bach. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfle iddynt greu celf gydag artistiaid proffesiynol mewn gweithdai celf a gynhelir bob mis. Yn Sir y Fflint, yr artist Honor Pedican fydd yn cynnal y sesiynau a hynny ym Melin Celf a Chrefft Treffynnon rhwng 10.30am a 12.30pm ar ddydd Sadwrn. Dyma’r dyddiadau: • 22 Tachwedd • 6 Rhagfyr • 17 a 31 Ionawr • 28 Chwefror • 14 Mawrth • 18 Ebrill • 2 a 16 Mai Awdurdodau lleol y Gogledd a Chyngor y Clefyddydau sy’n ariannu’r rhaglen. Y gost yw £35 am ddeg sesiwn. I gael rhagor o wybodaeth ac i neilltuo lle, ffoniwch swyddfa’r Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau ar 01352 704400 neu anfonwch e-bost at paula.jones@flintshire.gov.uk