Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cardiau Nadolig

Published: 25/11/2014

Mae Archifdy Sir y Fflint wedi cynhyrchu pedwar cerdyn Nadolig gwahanol yn seiliedig ar gloriau rhaglenni pantomeim o’r 1950au sy’n ffurfio rhan o Gasgliad Dennis Griffiths a gedwir yn yr Archifdy. Bu i’r Henadur Dennis Griffiths YH, ysgrifennu, cynhyrchu a chyfarwyddo dros 27 o bantomeimiau ar gyfer Cwmni Pantomeim Amaturaidd Bwcle rhwng 1935 ac 1959 a ddenodd cynulleidfaoedd mawr o ogledd Cymru a thu hwnt ac a gododd filoedd o bunnau i elusennau. Roedd rhoddion gan y Cwmni yn bennaf gyfrifol am brynu Hawkesbury House yn 1944 fel canolfan gymuned i bobl Bwcle. Meddai’r Prif Archifydd Claire Harrington: Er fod miloedd o ddogfennau yn ein harchifau, ychydig iawn ohonynt sy’n addas i’w hailgynhyrchu fel cardiau Nadolig. Mae cloriau’r rhaglenni hyn yn ddigon llwigar i’w gwerthu a bydd y cysylltiad â Bwcle o ddiddordeb i nifer o bobl leol. Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg: Roedd Henadur Griffiths yn ddyn dawnus iawn. Ef oedd cyd-sefydlydd Cyngor Drama Cymru a bu’n ghynyrchydd Cylch Drama Bwcle am dros 25 mlynedd. Ef hefyd oedd llywydd cyntaf Cymdeithas Ddrama Sir y Fflint. Yn ystod ei fywyd cyhoeddus prysur bu’r Henadur Griffiths yn aelod o Lys Prifysgol Cymru, corff llywodraethu Coleg Normal Bangor, Is-gadeirydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ac, ar un adeg, roedd yn Gadeirydd Plaid Ryddfrydol Cymru. Mae’r cardiau y mae’r Archifdy wedi’u cynhyrchu yn deyrnged i’r dyn a oedd yn biler uchel ei barch yn y gymdeithas. Rwy’n cofio mynd i’w bantomeimiau pan oeddwn yn blentyn ac mae’n braf ein bod yn ei gofio ef a’i gyfraniadau fel hyn yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn. Gellir prynu’r cardiau sy’n dod mewn set o bedwar (un o bob dyluniad) am £2 yn yr Archifdy ar Lôn y Rheithordy, Penarlâg. Fel arall, os nad ydych yn gallu cyrraedd yr Archifdy ac yn dymuno prynu set, ffoniwch yr archifdy ar 01244 532364 i dalu â cherdyn neu siec – codir tâl bychan am eu postio. Lluniau Cardiau Nadolig 2.jpg Cardiau Nadolig.jpg