Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cwrs codi waliau cerrig sych
Published: 09/12/2014
Ymunodd gwirfoddolwyr a cheidwaid cefn gwlad Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint
i gymryd rhan mewn cwrs codi waliau cerrig sych ym Mharc Gwledig Waun y Llyn yn
ddiweddar. Codwyd wal dau fetr o hyd a chafodd dwy gamfa garreg eu trwsio.
Treuliodd yr hyfforddwr, Colin Slater, gyfanswm o bedwar diwrnod yn dysgu’r
criw.
Roedd y gweithdai’n rhan o brosiect Sgiliau Traddodiadol a gaiff ei ariannu gan
Cadwyn Clwyd, Asiantaeth Datblygu Gwledig Sir y Fflint a Sir Ddinbych, drwy’r
arian a ddyrennir o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig drwy
Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Stephen Lewis, un o Geidwaid Cefn Gwlad Sir y Fflint:
Mae’n braf dysgu hen sgiliau traddodiadol fel codi wal gerrig. Roedd yn
brofiad gwych i’r ceidwaid ac i’r gwirfoddolwyr ac rydym yn bwriadu trefnu
rhagor o ddiwrnodau hyfforddi gyda Colin yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
Mae’r waliau’n edrych yn wych ac mae’r gwaith a wnaed i’w cysylltu â’r
camfeydd cerrig wedi talu ar ei ganfed. Diolch i’r gwirfoddolwyr yn enwedig am
eu rhan yn llwyddiant y prosiect hwn.
DELWEDD
Or chwith ir dde: Colin Slater (hyfforddwr waliau cerrig sych), Lisa-Jayne
Reeves (gwirfoddolwr), Lawrence Gotts (Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol,
Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint) a Stuart Studdart (gwirfoddolwr).