Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014

Published: 18/11/2014

Cafodd pwerau deddfwriaethol newydd syn effeithio ar Gyngor Sir y Fflint mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol eu trafod mewn cyfarfod o’r Cabinet heddiw (dydd Mawrth 18 Tachwedd). Yn ddiweddar daeth Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i rym gan symleiddior dull gweithredu a galluogi camau lleol effeithiol i reoli a lleihau ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Maer ddeddfwriaeth yn cyflwyno pwerau newydd y gall cynghorau eu defnyddio i fynd ir afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys Sail Absoliwt Newydd ar gyfer Meddiannu i gyflymu dadfeddiannu tenant pan fo ef neu hi, aelod arall or aelwyd neu ymwelydd wedi cael euogfarn am drosedd ddifrifol, megis delio mewn cyffuriau yn yr eiddo. Dau ychwanegiad newydd arall yw’r Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol a’r Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus. Mae Hysbysiadau Amddiffyn Cymunedol yn targedu’r sawl syn gyfrifol am broblemau neu niwsans parhaus syn effeithio ar ansawdd bywyd y gymuned. Mae Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn gosod amodau ar y defnydd a wneir o ardal, megis yfed ar y stryd, cwn yn crwydro mewn parciau neu grwpiau o bobl syn achosi problemau swn mewn mannau agored, pan ystyrir y materion hynny’n niweidiol ir gymuned leol. Mae Swyddogion Gwarchod y Cyhoedd syn ymgymryd â gwaith cymunedol, gan gynnwys Swyddogion Tai Cymdogaeth, Wardeiniaid Cymdogaeth, Cydlynwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Swyddogion Rheoli Llygredd wedi eu hawdurdodi i wneud y gwaith gorfodi. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Heddlu Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr tai cymdeithasol eraill i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a bydd system newydd o adolygu hefyd yn cael ei sefydlu ar gyfer dioddefwyr os teimlant nad yw eu cwynion yn cael sylw teilwng. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am y Strategaeth Wastraff, Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden: “Maer Cyngor wedi ymrwymo i fynd ir afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a dylai’r cyfreithiau newydd yma fod yn fwy teg i ddioddefwyr drwy ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i swyddogion fedru dadfeddiannu tenantiaid syn achosi problemau. Maen nhw hefyd yn ymwneud â phroblemau mewn mannau agored yn y Sir ac yn rhoi mwy o bwerau i gymryd camau gorfodi yn erbyn pobl y mae eu hymddygiad nhw’n achosi niwsans.”