Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dyddiadau Clybiau Menter Sir y Fflint

Published: 07/02/2019

Mae rhagor o ddyddiadau wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer dau Glwb Menter yn Sir y Fflint.

Gall mynd i un o’r Clybiau yma roi cymorth i unrhyw entrepreneur addawol gyrraedd y cam nesaf – p’un a ydych chi newydd gychwyn arni neu'n fusnes sefydledig sy’n chwilio am syniadau newydd ac ysbrydoliaeth.

Mae’r Clybiau, yn Shotton a Maes Glas yn rhad ac am ddim ac maent yn gwahodd siaradwyr ac ymgynghorwyr o asiantaethau eraill. Mae'r sesiynau bob amser yn gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithio, ysbrydoliaeth a syniadau!

Mae’r ddau glwb yn cynnal gweithdai menter a sesiynau mentora misol i’r rheiny sy’n gwneud cais am gymorth. 

Mae’r Clwb Menter yn Shotton yn cyfarfod pob pythefnos ar ddydd Gwener yn y Ganolfan “Place for You”, Rowleys Drive, Shotton, CH5 1PY o 10:30am tan 12:30pm.  Y dyddiadau nesaf yw 15 Chwefror, 1 Mawrth, 15 Mawrth a 29 Mawrth.

Mae’r Clwb Menter ger Treffynnon yn Cyfarfod pob pythefnos ar ddydd Mercher yng Nghanolfan fusnes Maes Glas ar Greenfield Road, CH8 7GR o 10:30am tan 12:30pm.  Y dyddiadau nesaf yw 6 Chwefror, 20 Chwefror, 6 Mawrth a 20 Mawrth.

Os hoffech gofrestru, cysylltwch â Beverly Moseley ar beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01352 704430.