Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Ymgyrch lwyddiannus ar y cyd yn cipio tybaco anghyfreithlon

Published: 08/02/2019

Yn ddiweddar, bu ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint, Heddlu Gogledd Cymru a Wagtail UK Ltd i geisio rhoi stop ar werthu tybaco anghyfreithlon.

Cafodd cyfanswm o chwe siop yn Sir y Fflint eu harchwilio am gyflenwi tybaco anghyfreithlon. Roedd nifer o'r siopau wedi'u dal yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn y gorffennol, a oedd wedi arwain at ddau erlyniad ac un rhybudd.  Y tro hwn, roedd pump o'r chwe siop a gafodd eu harchwilio yn gwerthu tybaco anghyfreithlon. Cipiwyd cyfanswm o 23,060 o sigaréts a 3,150 gram o dybaco o’r siopau, a oedd werth cyfanswm o £188,635.50.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Roedd yr ymgyrch hon yn enghraifft dda iawn o waith partneriaeth rhwng Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor Sir, Heddlu Gogledd Cymru a chwn darganfod o Wagtails i helpu i leihau faint o dybaco anghyfreithlon sydd ar gael yn Sir y Fflint.  Mae rhai'n dioddef oherwydd hyn.  Nid yw tybaco anghyfreithlon rhad yn atal pobl rhag dechrau ysmygu – mae'n aml yn ei gwneud hi'n hawdd iawn i bobl ifanc ddechrau ysmygu ac osgoi talu treth sy'n ariannu ein gwasanaeth iechyd."

Dywedodd Richard Powell, Arweinydd Tîm Ymchwiliadau Safonau Masnach:

“Mae cynnyrch tybaco anghyfreithlon yn sigaréts neu dybaco rowlio sydd wedi’i smyglo neu sy’n ffug ac sydd ddim yn destun unrhyw reolaeth o ran eu defnyddio. Mae'r fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn arwain at ganlyniadau difrifol i drosedd ac iechyd yn y gymuned ac yn achosi niwed economaidd i fusnesau lleol cyfreithlon.”

Byddwn yn parhau i fonitro cyflenwadau tybaco anghyfreithlon a ffug.  Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglyn â gwerthiant tybaco anghyfreithlon, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach Sir y Fflint ar 03454 040506.

 

Concealment2.jpg  DSC_0646.JPG