Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Parth 2 Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy 

Published: 08/02/2019

Mae Cam Un y gwaith rwan wedi cychwyn ar y llwybr beiciau newydd a’r isadeiledd cysylltiedig.

Mae system unffordd rwan yn weithredol o Fourth Avenue o’r gyffordd â Sixth Avenue at Parkway a’r gyffordd â Sixth Avenue.

Mae’r drafnidiaeth yn symud i gyfeiriad gwrthglocwedd o Fourth Avenue i Parkway. Mae pob mynedfa fusnes yn y system unffordd wedi’u dangos gan arwyddion.

Mae swyddfa safle ar Fourth Avenue gyferbyn ag Ifor Williams Trailers os oes gan unrhyw un broblem neu ymholiad yr hoffent ei godi gyda pheiriannydd y Cyngor ar y safle.