Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfeydd Ewropeaidd
Published: 18/11/2014
Mae blaenoriaethau Sir y Fflint ar gyfer buddsoddi arian Ewropeaidd yn y sir
wedi eu hamlinellu mewn cyfarfod o’r Cabinet heddiw (dydd Mawrth 18 Tachwedd).
Mae’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar Rhaglenni Datblygu Gwledig yn
ffynonellau pwysig o gyllid i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer datblygu economaidd,
sgiliau a chyflogaeth, isadeiledd ac ansawdd bywyd.
Mae’r rhaglenni hyn yn gyfle i sicrhau adnoddau ychwanegol i gyflawni
blaenoriaethaur Cyngor a gallant arwain at ddatblygu ffyrdd newydd o ddarparu
gwasanaethaur Cyngor. Gall saith sir Dwyrain Cymru ddisgwyl elwa ar gyfran o
tua £330 miliwn rhwng 2014 a 2020.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, maer Cyngor yn edrych i ddatblygur
prosiectau canlynol drwy gyllid Ewropeaidd:
• Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Domestig Cydweithredol Gogledd a Chanolbarth
Cymru
• Canolfan Gweithgynhyrchu Uwch Gogledd Cymru
• Prosiectau trafnidiaeth rhanbarthol
• prosiectau i gefnogi pobl nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
• prosiectau cymorth i fusnesau er mwyn creu mentrau newydd a chefnogir sector
cymdeithasol
• Cysylltedd Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a manteisio ar y cysylltedd
hwnnw
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd:
“Mae cyllid Ewropeaidd ar gael i bob math o raglenni, ac mae llawer ohonyn nhw
i wella ardaloedd gwledig. ‘Dan ni bob amser yn edrych ar wahanol brosiectau i
weld sut y maer gwaith ‘dan ni’n ei wneud yn Sir y Fflint yn cyd-fynd efo’r
grantiau sydd ar gael er mwyn i ni gael gwneud y mwyaf o’r buddion i’r
trigolion lleol.”