Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hunanariannur Cyfrif Refeniw Tai
Published: 18/11/2014
Cafodd Aelodau ddiweddariad mewn cyfarfod heddiw (ddydd Mawrth 18 Tachwedd)
ynglyn â hunanariannu ar gyfer tai’r Cyngor a fydd yn arwain at wariant o £14m
gan Gyngor Sir y Fflint ar dai cyngor newydd.
Bydd newidiadau i’r trefniadau ariannu ar gyfer tai cyngor yng Nghymru yn dod i
rym ym mis Ebrill 2015 a bydd pob tenant yn Sir y Fflint yn cael gwell cartref
wrth i’r Cyngor elwa o £1 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i’w wario ar
wasanaethau tai. Hefyd, bydd modd dechrau ar y gwaith o adeiladu tai cyngor
newydd sy’n brin ledled y Sir.
Bydd y Cyngor yn cynnal gweithdy tenantiaid ac aelodau i drafod y newidiadau
arwyddocaol hyn yn fwy manwl ac i ystyried cynigion ynglyn â sut y dylid
datblygu’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae diweddariadau rheolaidd wedi’u rhoi mewn
cynadleddau tenantiaid ac i’r Ffederasiwn Tenantiaid.
Meddai’r Cynghorydd Helen Brown, Aelod o’r Cabinet dros Dai:
“Bydd y Cyfrif Refeniw Tai yn elwa o £1m o refeniw ychwanegol bob blwyddyn, a
fydd yn adnodd ychwanegol i fuddsoddi mewn cartrefi tenantiaid a chyflawni
Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020. Mae pob cam yn y broses yn dod â ni’n nes
at adeiladu tai cyngor newydd a dylai’r gwaith adeiladu gychwyn ar ddechrau
2016.”