Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o Dai Lloches  

Published: 14/03/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi adolygu adroddiad ar Adolygiad o Dai Lloches. 

Cymeradwywyd meini prawf cymhwysedd pob grwp bychan a chynllun gwarchod hyd at 55 oed i ddod â hwy yn unol â’n Partneriaid SARTH yn y Gymdeithas Dai a’r Awdurdod Lleol.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

 “Mae’r adroddiad yn edrych ar gwmpas adolygu ein cynlluniau tai gwarchod ac yn ystyried y defnydd gorau o’r stoc dai bresennol i ddiwallu angen o ran tai presennol a’r dyfodol.  Mae’n cynnwys dadansoddiad a gynhaliwyd hyd yma ond hefyd yn mynnu bod angen gwneud mwy o waith cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau. 

 “Mae’r Cyngor yn dymuno sicrhau trigolion na fydd unrhyw beth yn digwydd i unrhyw gynllun ac na wneir unrhyw benderfyniadau terfynol heb weithio gyda thenantiaid cynllun tai gwarchod a bod yr adroddiad hwn yn ffurfio rhan o’r broses ystyriaeth barhaus.”

Caiff yr adolygiad ei gynnal mewn dau gymal: 

Cymal 1 – adolygiad fesul cynllun i ganfod: 

  • y mathau o eiddo a’u defnydd presennol;
  • cyfraddau tai gwag – datblygu dealltwriaeth fanwl o’r rhesymau dros drosiant;
  • cyfres o opsiynau ar gyfer cynlluniau unigol gyda’r nod o leihau'r cyfraddau tai gwag a sicrhau’r defnydd gorau o stoc;
  • argymhellion i’r Cabinet fabwysiadu ar sail cynllun ar y tro.

Cymal 2 – asesiad o’r defnydd gorau o’r stoc:

  • dylai adolygiad o eiddo nodi’r defnydd gorau ar gyfer y stoc gan gynnwys ystyried a ddylent fod ar gyfer anghenion cyffredinol neu a ellid eu defnyddio i gynorthwyo a throsglwyddiad gohiriedig o ofal/ysbyty;
  • ystyried a fyddai’n effeithlon buddsoddi gwariant cyfalaf i’w gwneud yn addas i’r diben at y dyfodol, er enghraifft:
    • gallai gosod lifftiau grisiau fod yn ddatrysiad cost effeithiol i osgoi’r angen i denantiaid o fflatiau ar loriau uwch symud i eiddo mwy hygyrch;
    • gallai technoleg ac hyfforddiant i alluogi siopa ar-lein a danfoniadau lleol eraill fod yn ddefnyddiol wrth gefnogi’r rhai hynny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig;
  • ystyried ai llety mewn fflatiau un ystafell yw’r opsiwn orau i fodloni’r newid yn y galw a’r disgwyliadau o ran tai, gan gynnwys y gostyngiad yn y galw gan bobl hyn am y math yma o lety, a chynnydd yn y galw am lety i un person. 

Mae gan y Cyngor nifer o eiddo tai gwarchod sy’n wag ar unrhyw adeg ac mae rhai cynlluniau yn cynnwys rhestrau aros bach iawn. Os ydych dros 55 oed a bod gennych unrhyw faterion tai, mae’r Cyngor yn eich annog i gysylltu â’n tîm Datrysiadau Tai ar 01352 703777; e-bostio housingsolutionstriage@flintshire.gov.uk; neu alw yn unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle gall y tîm gynghori ar amrywiol ddewisiadau tai.