Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adfywio Glan Afon Saltney

Published: 27/11/2014

Gwaith adfywio ar Lan yr Afon yn Saltney yn gosod yr ardal ar Lwybr Arfordirol Cymru. Mae Ceidwaid Arfordirol o Wasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithion galed yn Saltney, yn cyflwyno prosiect aml-asiantaeth yn seiliedig ar themâu treftadaeth, celfyddyd, mynediad a bywyd gwyllt. Mae’r gwaith yn cael ei gefnogi gan Wasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor, Cyngor Tref Saltney, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cadwyn Clwyd, Awdurdod Datblygu Gwledig Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Bydd y prosiect yn digwydd mewn dwy gam, a bydd y tir, sy’n berchen i Gyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn cael ei drawsnewid. Fe ychwanegwyd lôn o 30 o goed, ynghyd â golygfan, llwybrau troed, nodwedd arforol a phrosiect peillio gwrych arbennig. Mae cerflun unigryw o weithiwr o hen ffatri Henry Woods (a oedd yn cynhyrchu cadwyni ar gyfer llongau) wedi cael ei chreu gan y cerflunydd Mike Owens. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Gyda golygfeydd tuag at y Ddyfrdwy mewn i Sir y Fflint ac allan i Gymru, mae’r safle hwn yn darparu mynedfa wych i Gymru o Gaer ar gyfer cerddwyr, beicwyr a theuluoedd a bydd yn ffordd wych i ailgysylltu cymunedau Saltney a Saltney Ferry at yr afon.” Canmolodd Karen Rippin, Ceidwad Arfordirol ac arweinydd y prosiect, Cyngor Tref Saltney ar trigolion lleol ar gymuned fusnes am eu cefnogaeth frwdfrydig ar gyfer y cynllun: “Hebddynt, ni fyddem wedi cyflawni unrhyw agwedd ar y prosiect adfywio arfordirol, meddai Karen. “Fe gysylltodd Cynghorwyr Sir lleol dros Saltney â ni yn dilyn y Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy i weld a oedd modd i ni drawsnewid y safle. Cytunodd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn syth a chychwynnodd y gwaith o chwilio am bartneriaid cyllido.” Fe ymunodd Cadwyn Clwyd i gefnogir cynllun ac fe sicrhaodd y mwyafrif or cyllid ar gyfer y prosiect gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) drwy Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru. “Maen gynllun a safle gwych meddai Sarah Jones, Swyddog Treftadaeth a’r Amgylchedd Cadwyn Clwyd. “Roeddem yn fwy na pharod i gefnogir prosiect adfywio rhagorol hwn ar ran mor hanesyddol o arfordir Cymru syn cysylltun mor dda ir Llwybr Arfordir Cymru.” Yn ystod ail gam y prosiect, fe osodir pedwar cerflun gan Michael Johnson a ddyluniwyd gyda chefnogaeth myfyrwyr Ysgol Uwchradd Saltney, Grwp Hanes Saltney a Saltney Ferry, a llwybr sain, meinciau a phaneli dehongli. Mae sefydliadau eraill syn cefnogir cynllun yn cynnwys Cais, Go Outdoors, Ymddiriedolaeth Groundwork, Edward Homes, Masnachwr Metel Sgrap P Dobbins a Tag Industry. Mae agoriad mawreddog or safle wedi’i drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Ger y cerflun yn y llun mae Karen Rippin a’r cerflunydd Mike Owens