Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dewch i ddweud eich dweud
Published: 28/04/2014
Dewch i ddweud eich dweud am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich
cymuned.
Ymunwch mewn sgyrsiau â chynrychiolwyr o feddygfeydd, gwasanaethau cymdeithasol
i oedolion ar Cyngor Gwirfoddol Lleol a thynnwch sylw at y materion sydd o
bwys i chi ddydd Mercher 30 Ebrill yng Nghanolfan Daniel Owen yr Wyddgrug.
Mae croeso i bobl alw i mewn rhwng 1pm a 4.30pm i siarad am y gwasanaethau a
gynigir yn y gymuned leol. Bydd lluniaeth ar gael hefyd.
Am fwy o wybodaeth am y sesiwn cysylltwch â Karen Chambers ar 01352 702571 neu
e-bostiwch Karen_Chambers@flintshire.gov.uk