Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Drafft Gogledd Cymru 2015-2020

Published: 25/11/2014

Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Drafft Gogledd Cymru 2015-2020 YMGYNGHORIAD 24 Tachwedd 2014 i 5 Ionawr 2015 Mae Cyngor Gwynedd, ar ran y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus o 24 Tachwedd 2014 hyd at 5 Ionawr 2015 a fydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid roi sylwadau ar Gynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd Drafft Gogledd Cymru 2015-2020. Mae’r cynllun yn trafod ardaloedd Cyngor Sir Ynys Môn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Cyngor Sir Ddinbych; Cyngor Sir y Fflint; Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn gosod eu gweledigaeth i ‘wneud i ffwrdd â’r rhwystrau sy’n atal twf economaidd, ffyniant a lles drwy ddarparu rhwydweithiau trafnidiaeth diogel, cynaliadwy, fforddiadwy ac effeithiol. Gobeithir gwneud hyn drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu isadeiledd cyfalaf a fydd yn helpu i gyflwyno twf economaidd i ogledd Cymru drwy ddarparu gwell mynediad i wasanaethau a swyddi drwy eu hymyrraeth lefel uwch. Cewch weld y Cynllun Drafft yn www.taith.gov.uk/taith-joint-board/consultation/ Mae digwyddiadau ymgynghori’n cael eu cynnal yn y lleoliadau a ganlyn: · 1 Rhagfyr 2014 – 1pm-6pm Cyngor Sir Ynys Môn, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TW. · 2 Rhagfyr 2014 – 1pm-7pm Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Ystafell C3, Y Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SQ · 3 Rhagfyr 2014 – 1pm-7pm Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Canolfan Fusnes Conwy, Lôn y Gyffordd, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9XX. · 10 Rhagfyr 2014 – 12pm-7pm Cyngor Sir Ddinbych, Rhuthun neuadd y dref, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1AS. · 12 Rhagfyr 2014 – 1pm-7pm Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL19 8RN. · 15 Rhagfyr 2014 – 1pm-8pm Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref yr Wyddgrug, Neuadd y Dref, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1AB. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o Siop Gwynedd Caernarfon a Phencadlys Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH, neu trwy ebostio CTL@gwynedd.gov.uk