Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Hwyl yr Wyl yng Nghanolfan Sir y Fflint yn Cysylltu
Published: 26/11/2014
Bydd Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ar agor tan 6.30pm yn ystod dathliadau
troi goleuadau Nadolig Treffynnon ymlaen ddydd Gwener (28 Tachwedd).
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i alw draw i gynhesu eu bysedd a’u bodiau oer, a
byddant yn derbyn croeso cynnes gan:
Amgueddfa Dyffryn Maes Glas, fydd yn arddangos gwrthrychau’r amgueddfa o
aeafau’r gorffennol, gan gynnwys eitemau a ddefnyddiwyd i wneud anrhegion
Nadolig yn Oes Fictoria. Byddant hefyd yn rhannu arferion Nadolig diddorol o’r
gorffennol, gan gynnwys mins peis.
Tîm Ailgylchu’r Cyngor a’u cystadleuaeth Caru Bwyd Casáu Gwastraff ‘Caru eich
Sborion’. Rhannwch eich awgrymiadau i arbed arian ach ryseitiau ar gyfer
bwyd dros ben am gyfle i ennill cinio 3 chwrs yn Y Celstryn yng Ngholeg
Cambria, Glannau Dyfrdwy, neu lyfr coginio wedi’i lofnodi gan gogydd enwog.
Wardeniaid Cymunedol, fydd yn darparu cyngor diogelwch cymunedol ac yn ateb
unrhyw gwestiynau syn ymwneud â diogelwch cymunedol.
Bydd gwasanaethau Sir y Fflint yn Cysylltu ar gael ar y noson hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
“Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn Nhreffynnon wedi datblygu i fod yn wasanaeth
gwerthfawr i bobl Treffynnon ar trefi a phentrefi cyfagos. Mae’n darparu
gwasanaeth cwsmer rheng flaen wyneb yn wyneb mewn lleoliad canolog, hawdd ei
gyrraedd.
“Gan ddenu tyrfaoedd sylweddol, mae troi goleuadau Nadolig Treffynnon ymlaen yn
uchafbwynt blynyddol yng nghalendr Cysylltu, pan fydd gan y Cyngor a’i
bartneriaid gyfle i ymuno yn y dathliadau ac agor eu drysau i nifer o bobl
leol.
“Os ydych yn galw draw i gymryd rhan yn y gweithgareddau sydd ar gael, i
gyflawni busnes arferol y Cyngor neu i gael pum munud i gynhesu ar ôl bod allan
yn nhywydd oer mis Tachwedd, bydd croeso mawr i chi.”