Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhaglen Llenwi Tyllau Ffyrdd

Published: 10/05/2019

Rwan bod y tywydd gaeafol gwaethaf wedi dod i ben a’r haf ar ei ffordd, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cysylltu â chontractwyr, a fydd yn gweithio gyda gweithlu'r Cyngor, i lenwi’r tyllau sydd i’w gweld ar draws y rhwydwaith priffyrdd. Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 13 Mai ac yn para oddeutu 5 wythnos. Bydd pob ffordd yn y sir yn cael ei harchwilio ac unrhyw dwll amlwg yn cael ei lenwi.  

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Bydd y gwaith hwn o fudd i holl ddefnyddwyr y rhwydwaith ac rwyf yn falch iawn ein bod ni wedi llwyddo i drefnu ac ariannu'r cynllun gwaith hwn i gael gwared ar dyllau yn ein ffyrdd. Bydd tyllau wastad yn ffurfio ar y rhwydwaith, oherwydd tywydd gaeafol a thraffig, ond rydym ni'n parhau i arddangos ein hymrwymiad i ddarparu rhwydwaith priffyrdd sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr Sir y Fflint. Wrth reswm, mi fydd y gwaith yn tarfu ychydig ar bobl ac ymddiheuraf am hynny ymlaen llaw.”