Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Portreadau maint go iawn yn cael eu harddangos yn y Fflint

Published: 14/05/2019

Bydd Llyfrgell y Fflint a Phafiliwn Jade Jones, y Fflint yn brysurach nag erioed yn ystod wythnos olaf mis Mai. 

Y rheswm am hyn yw oherwydd y bydd y canolfannau poblogaidd yn arddangos portreadau lliw maint go iawn gan yr artistiaid Simon Grennan a Christopher Sperandio.

Mae’r portreadau yn lluniau bywiog o bobl y gwnaeth y ddau artist eu cyfarfod neu glywed amdanynt yn y Fflint yn ystod eu hymchwil ar gyfer Llwybr Celf Tref y Fflint, sef cyfres o gerfluniau ar gyfer Stryd y Castell a Stryd yr Eglwys y byddant yn mynd ati i’w creu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Bydd pob un o’r portreadau lliw yn cael eu harddangos fel baneri 'tynnu i fyny' unigol ac maent yn lluniau o bobl y Fflint hen ac ifanc, o’r gorffennol a'r presennol, yn breswylwyr ac yn ymwelwyr gan roi ciplun unigryw o'r dref.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts: 

“Mae hwn yn brosiect cyffrous arall fel rhan o waith adfywio’r Fflint ac mae’r portreadau’n drawiadol dros ben.  Bydd y lluniau yma ynghyd â Llwybr y Dref a’r holl waith rhyng-genhedlaeth arall sydd wedi bod yn digwydd yn y dref yn rhoi Fflint ar y map go iawn”. 

Meddai Simon Grennan, un o’r ddau artist:

“Da ni’n gweithio ar draws y byd ac mae’r croeso ‘da ni wedi’i gael gan bobl y Fflint ymysg y cynhesaf ‘da ni wedi’i gael erioed. Mae gwneud portreadau yn un o’r dulliau sy’n caniatau i ni gyfarfod pobl wrth greu celf newydd, a ‘da ni wedi cael ymateb anhygoel, gan glybiau ieuenctid, ysgolion, haneswyr a chrefftwyr, chwaraewyr dominos a chwaraewyr rygbi, brownis a geidiau, pobl sy’n hoffi gweu a llawer iawn mwy”.

Datblygwyd y comisiwn ar gyfer Llwybr Celf y Fflint mewn partneriaeth a Chyngor Sir y Fflint, Cadw a Churadurion Addo ac mae'n rhan o Brosiect Adfywio Blaendraeth y Fflint.

I gael rhagor o wybodaeth a ffotograffau, cysylltwch â: Gwenno Jones – 01352 702471- gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk / Simon Grennan – simon.grennan@zen.co.uk.

    Flint Portraits 1.jpg         Flint Portraits 2.jpg