Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfle arall i gwrdd â'r prynwr

Published: 22/05/2019

Mae tîm Busnes Cyngor Sir y Fflint, Sir y Fflint mewn Busnes a Wates Construction yn cydweithio er mwyn cynnal digwyddiad rhwydweithio mawr ar gyfer cyflenwyr ac isgontractwyr ar draws Sir y Fflint, i roi cyfle iddynt gofrestru eu diddordeb i fod yn bartner ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer datblygiadau newydd ar draws y sir.

Bydd digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr yn cael ei gynnal ddydd Mawrth, 4 Mehefin am 9am hyd at 1pm yn Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug (CH7 1YA), ac yn agored i gwmnïau o amrywiaeth o fasnachau adeiladu*. 

Gwahoddir y rhai sy’n mynychu i gwrdd â chwmnïau a phartneriaid adeiladu mawr** sy’n gweithio ar draws Sir y Fflint, a darganfod mwy am y gwaith adeiladu sy’n cael ei gyflawni ar draws y sir, yn ogystal â’r cyfle i gofrestru eu diddordeb i fod yn bartner ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer datblygiadau newydd.

Drwy gydol y digwyddiad, bydd busnesau’n cael cefnogaeth a chanllawiau ar sut i dendro ar gyfer pecynnau gwaith gyda phob contractwr, yn ogystal â darganfod am brentisiaethau a hyfforddiant fel rhan o’r gwaith ymhob sir. Bydd mentoriaid hefyd wrth law i drafod ymwybyddiaeth iechyd meddwl, cefnogaeth o ran dibyniaeth ar gyffuriau ac iechyd, diogelwch a lles. 

Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint (SHARP) a fydd yn creu 500 o gartrefi newydd ar draws Sir y Fflint, yn cael ei gyflawni gan y contractwr, Wates Construction.

Ers ei lansio yn 2015, mae SHARP wedi dod a chyfleoedd helaeth ar gyfer partneriaid cadwyn gyflenwi leol, sydd yn ei dro, wedi cynorthwyo i greu hyfforddiant ar y safle a chyfleoedd gwaith ar gyfer pobl leol. 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae nifer o fusnesau lleol eisoes wedi elwa o weithio gyda ni, o ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. 

“Rydyn ni'n awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio busnesau lleol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i ddod i’r digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallent fod yn rhan o’n gwaith." 

Dywedodd Paul Dodsworth, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Construction North: “Mae gweithio gyda phartneriaid cadwyn gyflenwi leol yn rhan hanfodol o’r gwaith a wnawn, ac mae digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr yn fforwm gwych er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn creu refeniw ar gyfer busnesau lleol. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau ein bod yn creu effaith economaidd gadarnhaol trwy ein gwaith yn y sir, yn ogystal â chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogi a hyfforddi pobl leol."

Dylai’r rhai sydd â diddordeb mynychu, gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar

Dylai’r cwmnïau sy’n mynychu fod wedi cofrestru â Construction Line Gold, bod yn aelod o SSIP a bod â gweithlu CSCS.

*Rhestr o grefftwyr:

Sgaffaldwaith

Pob math o doeau

Drysau Allanol

Ffenestri UPVC

Trydanol

Plastro

Gwaith tir

Gwasanaethau 

Masnachwyr Adeiladu

Nwy, Gwresogi a phlymio

Peintio ac addurno

**Contractwr a phartneriaid sy’n mynychu:

Wates Construction

MPH Construction

Kier Construction

Wynne Construction

Read Construction

Galliford Try

Tata Steel

Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru

Gweithio’n Dda Gyda’n Gilydd Gogledd Cymru

New Homes