Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhannu Eich Cinio 2019

Published: 24/05/2019

Share your lunch logo NEW Welsh FINAL VERSION copy.jpg

 Mae Cyngor Sir Y Fflint, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a ClwydAlyn, unwaith eto wedi ymuno gyda “Gallu Coginio” i lansio’r ymgyrch ‘Rhannwch Eich Cinio’ 2019.  

Mae’n ddatganiad syfrdanol i’w wneud, ond mae teuluoedd yn Sir y Fflint mewn tlodi bwyd.  Tlodi bwyd yw’r anallu i fforddio, neu gael mynediad i, fwyd i greu diet iach.  Mae plant yn llwgu gan na all eu rhieni fforddio prynu bwyd.

Bydd ymgyrch haf Rhannwch eich Cinio yn ein helpu i sicrhau bod cymaint o blant â phosib yn dychwelyd i’r ysgol yn faethlon ac yn barod i ddysgu. 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:

“Roedd Rhannu Eich Cinio yn llwyddiant mawr yr haf diwethaf, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gannoedd o bobl yn ein cymuned.    Ni ddylai plant orfod llwgu yn yr oes sydd ohoni.  Rydym yn anelu i ddarparu tua 800 o brydau fesul diwrnod ar gyfer cynlluniau chwarae ledled Sir y Fflint, dewch draw i fwynhau’r hwyl a’r antur!”

Mae Robbie Davison o Can Cook a fydd yn darparu’r prydau dros y chwe wythnos nesaf yn angerddol am y prosiect.  Dywedodd:

“Mae darparu pryd bwyd ffres i blant bob dydd yn hanfodol i’w hiechyd a’u lles.  Rydym yn gwybod os yw plant yn bwyta’n dda, maent yn chwarae’n dda ac os ydynt yn chwarae’n dda, maent yn hapusach.   Eleni, byddwn yn sicrhau bod pob plentyn sy’n rhan o’r rhaglen Rhannwch Eich Cinio yn derbyn pryd o fwyd iachach, ffres – ein nod yw darparu prydau bwyd sy’n gwneud plant yn hapus.”  

Bydd y Prosiect Rhannwch Eich Cinio yn cael ei ddarparu mewn 27 o'n safleoedd cynllun chwarae.  Bydd pob ffurflen a manylion pellach ar gael ar ein gwefan erbyn canol Mehefin. 

Safleoedd Cynllun Chwarae ‘Rhannwch Eich Cinio’

Albert Avenue Y Fflint

Buckley Common

Dee Cottages Y Fflint 

Drury Park Bwcle 

Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle

Garden City Welsh Road 

Cae Chwarae Gary Speed 

Caeau Chwarae Gas Lane Yr Wyddgrug

Ysgol Gynradd Gymunedol Maes Glas 

Safle Hamdden Gronant 

Gwernafield 

Holway Meadow Bank, Treffynnon

Caeau Chwarae Mancot 

Ffordd Merllyn Bagillt

Mostyn

Park Avenue Saltney

Parkfields Yr Wyddgrug

Pen Y Maes Treffynnon

Cae Chwarae Penrhyn Treffynnon 

Safle Hamdden Penyffordd 

Cei Connah Ardal Chwarae Cei

Cae Chwarae Sandycroft 

Sealand Road Sealand

33 Club  Shoton

Safle Hamdden Trelogan 

Victoria Road Bagillt

Ysgol Westwood Bwcle