Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwybr i Ofal Cymdeithasol

Published: 28/05/2019

Mae Cymunedau Am Waith Sir y Fflint wedi darparu rhaglen hyfforddiant Llwybr i Ofal Cymdeithasol yn llwyddiannus unwaith eto, mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ennill yr hyfforddiant a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y sector Gofal Cymdeithasol.

Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith, mae’n helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith.   Mae’r rhaglen yn targedu oedolion sy’n economaidd anweithgar ac yn ddi-waith yn hir dymor a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant ar draws Sir y Fflint.   Mae’n ceisio gwella eu cyflogadwyedd yn ogystal â’u helpu i ddod o hyd i, neu wella eu gobaith o ddod o hyd i waith.

Roedd y cwrs, a gafodd ei gynnal dros bedwar diwrnod, yn cynnwys hyfforddiant achrededig ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys; Cymorth Cyntaf, Iechyd a Diogelwch, Rheoli Haint, Diogelwch Bwyd a Diogelu.    Ar ddiwedd y rhaglen, roedd cyflogwyr gofal lleol hefyd ar gael i ddarparu gwybodaeth am y swyddi gwag sydd ar gael i gyfranogwyr.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae’r cyrsiau "llwybr" hyn yn gyfle gwych i bobl ennill profiad a sgiliau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith mewn sector sydd o ddiddordeb iddynt.    Nid yn unig mae’r cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, gallant hefyd fanteisio ar  y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael.”

O fewn degawd, mi fydd arnom ni angen 20,000 o bobl ychwanegol i weithio yn y sector gofal yng Nghymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn galw am fwy o staff i gefnogi plant, pobl hyn a phobl anabl.     Mae Cymunedau Am Waith yn ceisio gwella sgiliau a chefnogi pobl i weithio yn y diwydiant er mwyn bodloni'r galw cynyddol am wasanaethau gofal.

Am wybodaeth bellach ynghylch Cymunedau Am Waith, neu os hoffech chi gofrestru ar gyfer unrhyw un o'r rhaglenni llwybr, cysylltwch â'r swyddfa ar 01352 704430.