Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Sir y Fflint mewn Busnes 

Published: 30/05/2019

Lansiwyd rhaglen fusnes blaenllaw Cyngor Sir y Fflint, Sir y Fflint mewn Busnes, mewn digwyddiad yn Soughton Hall yn ddiweddar.

Roedd nifer o bobl fusnes lleol yn bresennol yn y digwyddiad i glywed beth sydd gan Sir y Fflint mewn Busnes i’w gynnig trwy gydol 2019.  

Ymhlith y rhestr mae digwyddiadau’n ymwneud â menter gymdeithasol, masnach adeiladu, lles, digidol, twf busnes a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd lleol i fyfyrwyr ysgol a choleg. 

Bydd Gwobrau Busnes Sir y Fflint, sy’n hynod boblogaidd, yn cael eu cynnal yn Soughton Hall ar 18 Hydref.  

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Unwaith eto, mae Sir y Fflint mewn Busnes yn cynnig nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu gyda’n partneriaid sy’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau diddorol ac yn cefnogi datblygiad economaidd ein rhanbarth.”

Dywedodd Llywydd Sir y Fflint mewn Busnes, yr Arglwydd Barry Jones: 

“Bydd y rhaglen wych hon yn parhau i hyrwyddo economi bywiog Gogledd Ddwyrain Cymru.  Yr hyn sy’n wych yw bod cysylltiad traws ffiniol o bwysigrwydd mawr, gydag aelodaeth o Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy ac ymglymiad ym Margen Dwf y rhanbarth.  Ni yw’r lleoliad mwyaf effeithiol ym Mhrydain o ran gweithgynhyrchu a'r unig economi traws ffiniol ym Mhrydain.”

Dywedodd Prif Noddwr Gwobrau Busnes Sir y Fflint, Jonathan Turner, Rheolwr Gyfarwyddwr, AGS Security Systems:

“Gwobrau Busnes Sir y Fflint yw un o drysorau'r calendr fusnes.  Mae’r dathliad yn galluogi busnesau neu fentrau cymdeithasol o bob maint i gael cyfle i ddangos eu cwmni, gan ennill cydnabyddiaeth, statws a phroffil uwch, anogwn unrhyw fusnes yn Sir y Fflint i ymgeisio am y gwobrau mawreddog hyn."

Mae cyfanswm o naw gwobr yng Ngwobrau Busnes Sir y Fflint y gallwch ymgeisio amdanynt, ac un wobr arbennig, Gwobr Etifeddiaeth yr Arglwydd Barry, a wobrwyir i gydnabod gwasanaeth gydol oes arbennig i fusnes a'r economi.  Mae enillwyr a noddwyr y categorïau wedi eu rhestru isod: 

Prif Noddwr

Systemau Diogelwch AGS

Gwobr Prentisiaeth 

Cambria ar gyfer Busnes

Gwobr Person Busnes y Flwyddyn

Gludiant Edge 

Gwobr Busnes y Flwyddyn â thros 10 o weithwyr 

K K Fine Foods 

Gwobr Menter Gymdeithasol Orau 

Galliford Try plc

Gwobr Busnes y Flwyddyn â hyd at 10 o weithwyr 

Pro-Networks Cyf

Gwobr Busnes Gorau i Weithio ynddo 

P & A Grwp o Gwmnïau 

Gwobr Entrepreneur 

Pochin

Gwobr Busnes Mwyaf Cyfrifol yn Gymdeithasol 

Adeiladwaith Wates 

Gwobr Technoleg, Arloesi a Busnes

Kingspan Insulation Panels     

Gwobr Etifeddiaeth Yr Arglwydd Barry 

Cyngor Sir Y Fflint

 Gellir canfod manylion llawn y categorïau a'r meini prawf ar gyfer ymgeisio ar wefan Sir y Fflint mewn Busnes flintshirebusinessawards.com neu trwy gysylltu â Kate Catherall 07876 576883, kate.p.catherall@flintshire.gov.uk.

Rhaid i’r ffurflenni cais a deunydd cysylltiedig gael eu derbyn erbyn y dyddiad cau, 16 Medi 2019.              

FBAL-Ginger-Pixie-Photography (73 of 73).jpgO'r Chwith: Dave Ibbotson – Adeiladwaith  Wates, Dave McKay a Zig Kruschke - Pro-Networks Cyf, Cyng Haydn Bateman, Cyng Marion Bateman - Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, Jonathan Turner - Systemau Diogelwch AGS, Yr Arglwydd Barry Jones - Llywydd Sir y Fflint yn Busnes, Colin Everett - Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, y Cyng Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Nikki Edge – Gludiant Edge, y Cyng Derek Butler - yr Aelod Cabinet Datblygu Economaidd, Andy Farrow - Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi, a Steve Morgan, P & A Grwp o Gwmnïau