Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Apêl am bethau cofiadwy o’r Ail Ryfel Byd

Published: 04/06/2019

Mae 2019 yn nodi 80 mlynedd ers cychwyn yr Ail Ryfel Byd. 

Mae’r gwasanaethau archif lleol yn creu Archif Ail Ryfel Byd o gofnodion yn ymwneud â phrofiadau pobl leol yn ystod y rhyfel. 

Cynhaliwyd derbyniad yn ddiweddar yn Neuad y Sir i lansio’r apêl, gydag aelodau Cyngor Sir y Fflint yn dod â’u trysorau teuluol o gyfnod yr Ail Ryfel Byd.  

Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym yn cynnal y lansiad yn ystod yr wythnos pan gofiwn am D-Day, 6 Mehefin 1944. Rydym am gofnodi sut beth oedd bywyd i'r bobl oedd yn byw yn ystod y gwrthdaro, gartref a thramor, fel na fyddant yn cael eu hanghofio gan genedlaethau'r dyfodol.  Rydym yn gobeithio bydd pobl yn rhoi, ar log, neu’n benthyg, unrhyw ddogfennau teuluoedd gyda chysylltiad i flynyddoedd y rhyfel, llyfrau dogn, cardiau adnabod, lluniau o filwyr mewn iwnifform, lluniau a llythyrau i enwi ond rhai enghreifftiau." 

Mae gwasanaethau Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn cydweithio ar y prosiect hwn. 

Os oes gennych unrhyw gofnodion yr hoffech ei rhoi sy’n ymwneud â’r naill Sir neu’r llall, (ar log) neu eu benthyg i’w sganio a’u dychwelyd i chi, anfonwch neges e-bost at (archives@flintshire.gov.uk neu archives@denbighshire.gov.uk) neu ffoniwch 01244 532364 (Sir y Fflint) neu 01824 708250 (Sir Ddinbych) i drefnu apwyntiad.  Bydd angen gwneud apwyntiad i sicrhau bod staff yn gallu trafod y gweithdrefnau perthnasol gyda chi.

 

 

 D-Day 01.jpg

Cadeirydd Cyng Marion Bateman, Cyng Andy Dunbobbin
a Claire Harrington,
Y Prif Archifydd Cyngor Sir y Fflint            

          

 D-Day 03.jpg

Cyng Arnold a Pamela Woolley, Cyng Andy Dunbobbin,
Cadeirydd Cyng Marion Bateman
a'r Cynghorydd Paul Shotton
gyda phethau cofiadwy 
      

D-Day 06.jpg

Mae'r Cynghorwyr Haydn Bateman a Paul Shotton
yn mwynhau'r dderbynfa

D-Day 07.jpg

Samplau o bethau cofiadwy

D-Day 11.jpg

Llyfr Gwasanaeth y Milwr

D-Day 14.jpg

Samplau o bethau cofiadwy