Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Landlord yn Sir y Fflint wedi’i erlyn yn llwyddiannus

Published: 10/06/2019

Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint wedi erlyn landlord sector breifat Sir y Fflint am ddadfeddiant anghyfreithlon, y cyntaf yn y Sir.

Plediodd Mr Gruffydd Edwards yn euog i’r drosedd a ddigwyddodd yn un o’i eiddo, 11 Llys y Wennol, Downing Lane, Treffynnon. Roedd y drosedd yn dod o dan Ddeddf Diogelu rhag Ddadfeddiant 1977.  Cafodd ddirwy o £1,040.

Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:

“Rwy’n falch bod y Cyngor wedi erlyn y landlord hwn yn llwyddiannus am ddadfeddiant anghyfreithlon. Mae’n bwysig iawn bod hawliau a buddiannau tenantiaid yn cael eu diogelu a bod landlordiaid yn eu parchu.

“Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir y bydd Cyngor Sir y Fflint yn diogelu preswylwyr yn erbyn landlordiaid preifat anghyfreithlon. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i sicrhau bod cartrefi yn y sector rhentu preifat yn cael eu rheoli’n briodol.”