Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Llwyddiant Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Published: 11/06/2019

Mae tîm Busnes Cyngor Sir y Fflint, Sir y Fflint mewn Busnes a Wates Construction wedi cydweithio er mwyn cynnal digwyddiad rhwydweithio mawr ar gyfer cyflenwyr ac isgontractwyr ar draws Sir y Fflint. 

Roedd y digwyddiad yn gyfle i fusnesau lleol gofrestru eu diddordeb i fod yn bartner ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer datblygiadau newydd ar draws y sir.

Rhoddwyd cyfle i fusnesau gwrdd â’r prif gwmnïau a phartneriaid adeiladu sy’n gweithio ar draws Sir y Fflint, a darganfod mwy am y gwaith adeiladu sy’n cael ei gyflawni ar draws y sir, yn ogystal â’r cyfle i gofrestru eu diddordeb i fod yn bartner ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer datblygiadau newydd.

Yn ystod y digwyddiad, cynigwyd cefnogaeth a chanllawiau i fusnesau ar sut i dendro ar gyfer pecynnau gwaith gyda phob contractwr, yn ogystal â darganfod am brentisiaethau a hyfforddiant fel rhan o’r gwaith ymhob sir. Roedd mentoriaid hefyd wrth law i drafod ymwybyddiaeth iechyd meddwl, cefnogaeth o ran dibyniaeth ar gyffuriau ac iechyd, diogelwch a lles. 

Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint (SHARP) a fydd yn creu 500 o gartrefi newydd ar draws Sir y Fflint, wedi creu cyfleoedd helaeth ar gyfer partneriaid cadwyn gyflenwi leol, sydd yn ei dro, wedi cynorthwyo i greu hyfforddiant ar y safle a chyfleoedd gwaith ar gyfer pobl leol. 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae SHARP yn ymwneud â llawer mwy nag adeiladu tai cyngor a chartrefi fforddiadwy o ansawdd. Mae hefyd yn creu swyddi ac yn rhoi hwb i fusnesau lleol ac mae Sir y Fflint yn awyddus i barhau i greu cyfleoedd am gyflogaeth drwy ddefnyddio busnesau lleol.”

Dywedodd Victoria Hill, Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad:

“Roedd yn bleser cael y cyfle i fynychu’r digwyddiad pwysig hwn.  Er mwyn bodloni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ran darparu cartrefi fforddiadwy, mae'n bwysig cefnogi'r gadwyn cyflenwi lleol er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a’r buddion economaidd lleol.  Mae ymgysylltiad cynnar â chynllunio a chynllunwyr yn allweddol er mwyn i ni gyd wireddu'r potensial. Gadewch i ni barhau i sgwrsio!”

Dywedodd Paul Dodsworth, Rheolwr Gyfarwyddwr Wates Construction North: 

“Mae gweithio gyda phartneriaid cadwyn gyflenwi leol yn rhan hanfodol o’r gwaith a wnawn, ac mae digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr yn fforwm gwych er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn creu refeniw ar gyfer busnesau lleol. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau ein bod yn creu effaith economaidd gadarnhaol trwy ein gwaith yn y sir, yn ogystal â chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer cyflogi a hyfforddi pobl leol."

Os hoffech gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Kate Catherall: kate.p.catherall@flintshire.gov.uk neu 07876576883.

June Meet the buyer.JPG         June Meet the buyer action shot.jpg