Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygu Polisi Cludiant yn ôl Disgresiwn

Published: 14/06/2019

 Yn ei gyfarfod ar 18 Mehefin, cymeradwyodd Cabinet Sir y Fflint opsiwn 3 yn dilyn yr ymgynghoriad ar y polisi cludiant i ysgolion a’r coleg yn ôl disgresiwn.

Mae cludiant ar ôl 16 oed i ysgolion a’r coleg, a darparu cludiant am ddim o dan y maen prawf "budd-daliadau" yn wasanaethau dewisol. Mae’r Cyngor yn parhau i wynebu gostyngiadau mawr mewn refeniw ac mae'n rhaid iddo ystyried gwahanol ffyrdd o ddarparu gwasanaethau. Credir nad yw darparu cludiant yn ôl disgresiwn yn gynaliadwy yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni. 

Cydnabu llawer yn y Pwyllgor Craffu nad oedd parhau â’r drefn fel mae hi rwan a darparu cludiant am ddim i rai dros 16 oed yn ddewis ymarferol yn yr hinsawdd economaidd gyfredol oherwydd baich y gost ar yr awdurdod. Fodd bynnag, mynegodd nifer o’r aelodau bryder ynghylch cyflwyno tâl a allai atal dysgwyr o amgylchiadau economaidd mwy heriol rhag derbyn addysg ôl-16. Ategwyd hyn gan y pennaeth a chynrychiolwyr Coleg Cambria. 

Felly, argymhellwyd y dylai’r Cabinet gefnogi Dewis 3 h.y. cyflwyno taliad ar gyfer yr holl gludiant ôl-16 i'r lleoliadau addysg y cyfeirir atynt yn y Polisi Cludiant cyfredol ond peidio â chodi tâl ar ddysgwyr sy'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Mae hyn yn lliniaru rhywfaint ar y risg i ddysgwyr o gartrefi incwm isel gael eu hannog i beidio â mynd am addysg ôl-16.

Dylid cadw’r polisi yn ôl disgresiwn i ddisgyblion o oed statudol (11-16) h.y. bod y rhai sy’n derbyn budd-daliadau’n derbyn cludiant am ddim os ydynt yn byw 2.5 milltir o’u hysgol agosaf yn hytrach na 3 milltir. 

Yn y cyfarfod Craffu, ni benderfynwyd ar swm y taliad ar gyfer y dewis a argymhellwyd ac mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod penderfyniad anodd gan y Cabinet i gael cydbwysedd rhwng adennill costau a'r pris, gan fod yn gyson wrth osod unrhyw ffioedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint:

"Mae hon yn sefyllfa anodd gan fod Sir y Fflint, wrth gwrs, eisiau rhoi cymaint o ddewis â phosib’ i ddisgyblion, ond dan yr amgylchiadau, mae hefyd angen i ni edrych ar y ffyrdd mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon o weithio. Mae Sir y Fflint yn gwario tipyn yn fwy ar gludiant ysgol nag awdurdodau lleol eraill ac, felly, mae angen gwneud newidiadau, o ystyried y sefyllfa ariannol."