Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Adennill Dyled Corfforaethol 

Published: 17/06/2019

Ail-gymeradwyodd Cabinet Sir y Fflint y Polisi Adennill Dyledion Corfforaethol, fel y'i diwygiwyd, ar gyfer casglu Mân Ddyledion, Treth y Cyngor, Trethi Busnes, Rhenti Tai a gordaliadau Budd-dal Tai.

Mae angen diwygio ac ailgymeradwyo’r Polisi a gafodd ei gyflwyno yn 2012 i ystyried newidiadau i'r rheoliadau ers yr adeg honno.  Y prif newidiadau yw:

  • Diwygio trefniadau beilïau a chyflwyno rheoliadau newydd;
  • Tynnu traddodeb fel sancsiwn am beidio â thalu Treth y Cyngor;
  • Arferion gwaith mewnol diwygiedig i gasglu mân ddyledion yn cynnwys datblygu proses uwchgyfeirio fwy cadarn ar gyfer anfonebau y mae dadlau yn eu cylch;
  • Newidiadau i isafswm y trothwy ariannol wrth gymryd camau methdaliad;
  • Ffyrdd diwygiedig o adennill rhent tai sydd heb ei dalu.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:

“Mae’n rhaid i'r Cyngor gytuno ar bolisi tryloyw i reoli a chasglu dyledion.  Mae’r polisi hwn yn sicrhau ein bod ni’n gweithredu’n gyson ac yn dilyn yr arfer orau. 

“Mae’r polisi diwygiedig yma’n darparu gwasanaethau gyda set glir o’r safonau diweddaraf y mae’n rhaid cadw atynt ac sy’n dilyn y rheoliadau diweddaraf pan mae swyddogion yn adennill incwm sy'n ddyledus i'r Cyngor."

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’n bwysig, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, fod y Cyngor yn casglu’r holl incwm sy’n ddyledus ac yn sicrhau bod cyn lleied â phosib' o arian yn ddyledus i'r Cyngor.

“Mae pob punt o incwm heb ei chasglu, neu sy’n cymryd mwy o ymdrech i’w chasglu, yn y pen draw yn arwain at bwysau ariannol ychwanegol ar gyllideb y Cyngor."