Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwarchodfa Natur Taliesin

Published: 10/12/2014

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adfywio Gwarchodfa Natur Taliesin yn Shotton. Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion lleol, myfyrwyr coleg a bsnesau lleol a a grwpiau cymunedol i adfer y warchodfa natur gan ddefnyddio mwy na £17,000 o gyllid gan Drefi Taclus. Yn ddiweddar mae grwp o ddisgyblion o Goleg Cambria, Glannau Dyfrdwy, wedi gweithio ochr yn ochr âr ceidwad Tim Johnson gan wasgaru chwe cilogram o hadau au cribinio dros ardal o 1200 metr sgwâr. Rhywogaethau’r hadau a wasgarwyd oedd chwyn nap cyffredin, cludlys coch, cludlys gwyn, llygad yr ych, sawdl y fuwch, moron gwyllt, milddail, pysen y ceirw, yn ogystal â chymysgedd blynyddol i gael lliwiau ychwanegol. Mae staff o nifer o siopau McDonalds lleol hefyd wedi bod yn helpu i blannu 400 o goed yn yr ardal. Y mathau o goed sydd wedi eu plannu yw corwisgen, cyll, drain gwynion, celyn, afalau surion, ceirios, gellyg, ysgawen a chriafol. Mae pob cwmni sydd wedi cymryd rhan yn eiddo i fasnachfraint lleol Stewart Williams. Mae Ceidwaid a gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur yn creu llwybrau mynediad ir anabl a gwell arwynebau llwybrau yn ogystal â phlannu hadau blodau gwyllt a choed. Byddant hefyd yn uwchraddio pwyntiau mynediad ac yn gosod cerrig marcio yn y warchodfa natur. Mae Trefi Taclus yn fenter Cadwch Gymrun Daclus a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gefnogir gan awdurdodau lleol i wella amwynder, hygyrchedd, bioamrywiaeth yr ardaloedd sydd wedi mynd âu pen iddo. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: “Maen wych gweld y prosiect yn symud yn ei flaen, ac i weld disgyblion, busnesau a gwirfoddolwyr lleol yn rhoi eu hamser i brosiect cynaliadwy i helpur amgylchedd. Diolch i Goleg Cambria ac i Stewart Williams ai dîm yn McDonalds am eu cefnogaeth â’r cynllun hwn. Fe ddylai pob un syn ymwneud â’r cynllun hwn fod yn falch o fod yn rhan o dîm syn gyfrifol am greu lle hyfryd i bawb ei fwynhau Dywedodd Y Cynghorydd Ann Minshull, aelod ward lleol: “Da iawn i bawb dan sylw. Rydym yn edrych ymlaen i weld yr arddangosfa wych o flodau yn y Gwanwyn i gyd-fynd âr gwaith arall a wnaed ar y warchodfa natur.” Llun Capsiynau: 0629: Yn y llun mae myfyrwyr o Goleg Cambria 0638: Yn y llun gwelir staff bwyty McDonald’s gyda’r Cynghorydd Ann Minshull a’r Ceidwad Cefn Gwlad, Tim Johnson.