Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffioedd gwresogi ar y cyd

Published: 17/06/2019

Mae Cabinet Cyngor Sir y Fflint wedi cymeradwyo newidiadau i'r taliadau gwresogi presennol mewn tai cyngor gyda chynlluniau gwresogi cymunedol. 

Ar draws Sir y Fflint, mae naw cynllun gwresogi ar y cyd. Mae’r Cyngor yn trafod prisiau tanwydd ymlaen llaw ac mae’r tenantiaid yn elwa o gyfradd Contract Diwydiannol a Masnachol y Cyngor. Y Cyngor sy’n talu am y tanwydd yn y lle cyntaf cyn casglu arian amdano gan denantiaid, gyda'r nod o adennill y costau ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Mae ffioedd gwresogi ar gyfer defnyddio tanwydd yn seiliedig ar ddefnydd y llynedd.

Pan gytunodd y Cabinet ar ffioedd gwresogi ar y cyd y llynedd ar gyfer 2018/19 a 2019/20, cytunwyd y byddai cynnig diwygiedig yn dod ger bron y Cabinet pe bai prisiau neu ddefnydd yn cynyddu.

Cynyddodd cost nwy yn sylweddol ym mis Ebrill 2019 – o gyfartaledd o 18%, felly mae angen cynyddu’r ffi wresogi wythnosol mewn saith o'r naw cynllun gwresogi ar y cyd.  Mae'r tenantiaid yn talu'r gyfradd safonol am yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio ym mhob bloc, heb ystyried defnydd unigol.  Y dull o bennu ffioedd gwres tenantiaid yw eu cynyddu neu eu gostwng bob blwyddyn yn seiliedig ar ddefnydd y flwyddyn flaenorol ac unrhyw gostau cyfraddau ynni.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae ein gwaith arbed ynni’n helpu i gadw unrhyw gynnydd angenrheidiol, sydd y tu hwnt i'n rheolaeth ni, mor isel â phosib'.  Mae cynnydd mewn ffioedd gwresogi’n cael ei gyflwyno mewn camau, gan gydnabod y pwysau ariannol sy’n wynebu cartrefi yn barod." 

Bydd pob newid yn weithredol o 1 Awst 2019 ymlaen i helpu i rannu’r gost uwch i denantiaid dros gyfnod hirach.