Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Rhybudd Troseddu ar Stepen y Drws

Published: 14/06/2019

Hoffai Safonau Masnach Sir y Fflint atgoffa preswylwyr, oherwydd y tywydd drwg, y gallai masnachwyr ddechrau galw'n ddiwahoddiad i drwsio difrod i eiddo a allai fod wedi digwydd oherwydd y glaw a’r llifogydd, fel coed wedi disgyn a landeri. Gallai’r masnachwyr ddweud eu bod yn gallu gwneud y gwaith ar unwaith ac am arian parod.

Hoffai Safonau Masnach gynghori preswylwyr i osgoi cyflogi rhai sy’n galw’n ddiwahoddiad i wneud gwaith pwysig fel hyn. Efallai na fydd y gwaith o safon ac fe all achosi mwy o ddifrod. Os sylwch chi ar ddifrod i’ch eiddo sydd wedi’i achosi gan dywydd gwael, byddem yn argymell i chi ddefnyddio yswiriant eich ty neu fasnachwr sydd ag enw da. Mae cynlluniau fel Buy with Confidence yn cefnogi masnachwyr sy’n ymrwymo i weithredu mewn modd cyfreithiol, gonest a theg. Mae’r holl fusnesau sydd ar y wefan wedi’u gwirio, eu cymeradwyo ac maen nhw’n parhau i gael eu monitro gan y Tîm Safonau Masnach. Mae rhestr o fasnachwyr cofrestredig ar www.buywithconfidence.gov.uk  

Yn ogystal, os bydd masnachwr yn ceisio gwerthu eitemau neu wasanaethau y tu mewn i gartref defnyddwyr yna bydd Rheoliadau (Gwybodaeth, Canslo a Ffioedd Ychwanegol) Contractau Defnyddwyr 2013 yn berthnasol. Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i gontractau a wnaed yn ystod ymweliadau y gofynnwyd amdanynt ac na ofynnwyd amdanynt â chartref defnyddwyr. Mae’n rhaid rhoi rhybudd canslo o 14 diwrnod os yw’r contract i brynu nwyddau neu wasanaethau am £42 neu fwy. Mae methu â gwneud hynny’n drosedd. 

Mae Safonau Masnach Sir y Fflint yn cynnig sticer dim galw diwahoddiad y dylech ei osod mewn lle amlwg ar eich ffenestr neu ddrws. Mae’r rhain yn atal galwyr diwahoddiad. Os bydd masnachwyr yn ei anwybyddu, gellir ystyried eu bod yn troseddu. Os hoffech ofyn am sticeri i chi a'ch/neu eich teulu, ffrindiau neu gymdogion, gallwch gysylltu â Safonau Masnach Sir y Fflint ar 01352 703181. 

Rhowch wybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r tîm Cyngor i Ddefnyddwyr ar: 0845 404 0506