Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy 2019 – beth ydych chi’n ei wneud ar Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy?

Published: 02/07/2019

Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy’n un o ddigwyddiadau cymunedol a chadwraeth mwyaf Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ac mae wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007, gyda Sir y Fflint, Swydd Gaer a Chyfoeth Naturiol Cymru’n rhan-ddeiliaid allweddol. Ar hyd yr arfordir a’r afonydd sy’n llifo i Afon Dyfrdwy o Dalacre i Gaer i Langollen a gogledd Swydd Amwythig, mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy yn llawer mwy na diwrnod mawr o godi sbwriel.

Mae amcangyfrif bod dros 12 miliwn tunnell o blastig, yn boteli, bagiau a gronynnau plastig, yn cyrraedd y môr bob blwyddyn (greenpeace.org.uk) ac mae potensial i lawer o blastig fod yn Afon Dyfrdwy a’i haber ac ar ei glannau a’i chorsydd.  Yn Sir y Fflint, mae cannoedd o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn i weithio’n galed i glirio sbwriel o lannau’r afon ac o’r traethau, gan gasglu cannoedd o fagiau o sbwriel yn ogystal â thwtio’r rhannau arbennig o lannau, arfordir a dalgylch Afon Dyfrdwy. Mae eu hymdrechion yn cael eu cydlynu gan Wardeniaid Cefn Gwlad y Cyngor sy’n defnyddio’r cyfle i weithio gyda nifer o grwpiau cymunedol, ysgolion a gwahanol fusnesau fel Tesco, Airbus, Kingspan, ENI a llawer mwy.

Bydd y digwyddiad eleni’n cael ei lansio ar 13 Medi a bydd yn nodi dechrau wythnos o ddigwyddiadau glanhau ar hyd Afon Dyfrdwy a’i dalgylch yn Sir y Fflint, Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Wrecsam ac rydyn ni eisiau clywed beth rydych chi’n ei wneud i gefnogi Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy! Ydych chi mewn grwp cymunedol? Ydych chi’n cymryd rhan yn Niwrnod Mawr y Ddyfrdwy bob blwyddyn ac am wneud hynny eto eleni? Ai dyma’r tro cyntaf i chi fod yn rhan ohono? Os felly, dwedwch wrthym ni ble fyddwch chi a beth fyddwch yn ei wneud. 

Gyda’n gilydd, dewch i ni wneud gwahaniaeth MAWR i Afon Dyfrdwy eleni, i ddathlu #DiwrnodMawryDdyfrdwy.

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad:

“Mae Afon Dyfrdwy a’i haber yn amgylchedd morol sydd o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ac mae hi’n hanfodol ein bod ni i gyd yn deall y bygythiad mae’n ei wynebu o ddeunydd gwastraff, yn enwedig plastig, a’r hyn y gallwn ni ei wneud i gael gwared â’r bygythiadau yma.

 “Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy’n amlygu amgylchedd morol eithriadol ond bregus Afon Dyfrdwy a’r angen i’w pharchu, ei gwerthfawrogi a’i gwarchod.

 “Gallwn edrych ymlaen at y digwyddiadau eleni a gwneud Afon Dyfrdwy’n lle brafiach i bawb.”

Cysylltwch â Wardeniaid Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint ar 01352 703900 neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol (@Countryside&Coast) i gael mwy o wybodaeth neu i ddweud beth rydych chi’n ei wneud ar Ddiwrnod Mawr y Ddyfrdwy.