Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg

Published: 10/07/2019

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ac yn nodi Adroddiad Blynyddol y Gymraeg pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth, 16 Gorffennaf.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gyhoeddi adroddiad blynyddol sy’n nodi sut y mae wedi bodloni’r 171 Safon Iaith Gymraeg a osodwyd ym mis Medi 2015 gan Comisiynydd y Gymraeg.

Bydd adroddiad Blynyddol y Gymraeg yn rhoi cyfle i sefydlu beth mae’r Cyngor wedi ei wneud i fodloni’r safonau ac arddangos enghreifftiau o arferion da. Bu meysydd o gyflawniad rhagorol yn ystod y flwyddyn:

• Trefnodd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gwrs “Cymraeg i Ddechreuwyr” yn benodol ar gyfer y gweithlu Gwasanaethau Cymdeithasol (gan gynnwys y sector annibynnol), a darparu sesiynau ymwybyddiaeth iaith i’w partneriaid i’w helpu i ddeall pwysigrwydd diwylliant Cymru o fewn darpariaeth gwasanaethau cymdeithasol.

  • Cyflawnodd Ysgol Gwenffrwd Wobr Aur y Siarter Iaith ar gyfer eu defnydd cynyddol o’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae chwe ysgol gynradd cyfrwng Saesneg wedi cyflawni Gwobr Efydd “Cymraeg Campus" am eu gwaith i ddatblygu’r Gymraeg yn yr ysgol.
  • Mae’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cael ei ddiweddaru ac yn strategaeth bwysig er mwyn cynyddu'r nifer o ddisgyblion sy'n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a, dros amser, y posibilrwydd o gronfa o weithwyr sy'n siarad Cymraeg.
  • Am y tro cyntaf yn ei hanes darparodd Theatr Clwyd sioe Nadolig yn y Gymraeg sef y "Llew a'r Crydd".
  • Mae’r theatr yn datblygu cwrs achrededig newydd ar gyfer hwyluswyr dwyieithog - y cwrs cyntaf o’i fath erioed.
  • Cynyddodd Theatr Clwyd nifer yr arddangosiadau sinema Cymraeg a digwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg.

Mae dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o gymorth wrth gymhwyso'r safonau; mae angen i ragor o weithwyr gwblhau'r cyrsiau ymwybyddiaeth iaith sydd ar gael. 

Cynhaliwyd archwiliad i nifer fechan o gwynion yn ymwneud â'r Gymraeg gan y Comisiynydd.  Roedd y cwynion hyn yn cyfeirio at alwadau ffôn, y wefan, arwyddion, gwybodaeth a chyfatebiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i weithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i sicrhau y gellir cyflawni’r safonau newydd yn ymarferol, gan gydnabod daearyddiaeth a dadansoddiad demograffig o ardal y Cyngor.  Er ein bod wedi cael nifer fechan o gwynion, rydym yn parhau i ymgysylltu a’r Comisiynydd ac yn gweithio'n galed i ddatrys y materion hyn.”

Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:

“Mae’r cyngor wedi ymrwymo’n llawn i’r Gymraeg.   Mae gennym gyfres o safonau ymarferol a realistig sy'n atgyfnerthu ein hymrwymiad o ddwyieithrwydd heb fod yn faich ariannol.  Mae ein Strategaeth Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg yn parhau i godi proffil a chryfhau’r iaith yn Sir y Fflint.”

Mae amryw ddulliau cyfathrebu’n cael eu hystyried i sicrhau bod rheolwyr a gweithwyr yn gweithio o fewn y safonau.