Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stryd Fawr Treffynnon

Published: 17/07/2019

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio’n agos efo busnesau lleol a Chyngor Tref Treffynnon i gael arian ar gyfer diddymu'r parth cerddwyr yn Stryd Fawr Treffynnon.

Er gwaethaf cynigion llwyddiannus i gronfa Cludiant Llywodraeth Cymru a Chronfeydd Cyfalaf Cynghorau Tref a Chymuned, mae angen dod o hyd i weddill yr arian, ac mae cais wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w ystyried o dan y Gronfa Adfywio Trefi. Fe wnaeth panel ceisiadau Llywodraeth Cymru ystyried y mater ar nifer o achlysuron ond nid ydynt wedi gallu cymeradwyo’r cynigion ac mae’r mater bellach wedi cael ei basio ymlaen i benderfyniad gael ei wneud gan y Gweinidogion.

Oherwydd y terfyn amser ynghlwm, a dirywiad wyneb y ffordd ers i’r newidiadau dros dro gael eu cyflwyno, mae’r Cyngor wedi penderfynu parhau a’r cynllun ar unwaith. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu ar ffurf llai er mwyn sicrhau bod y gwaith i gyd wedi’i gwblhau cyn cyfnod masnachu’r Nadolig ym mis Rhagfyr. Bydd y penderfyniad yn sicrhau bod y trefniadau traffig cyfredol mewn grym, er y bydd gofyn i rai ffyrdd gael eu cau yn ystod y cyfnod adeiladu.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

“Rydw i’n falch iawn o ddatgan y bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, er y bydd ar ffurf ddiwygiedig ac yn gobeithio y bydd hyn yn darparu peth sicrwydd i fusnesau lleol a phreswylwyr y Dref. Mae yna ddiffyg o ran y gyllideb yn dal i fodoli, ond fe wnaf barhau i lobïo Llywodraeth Cymru am y rhan olaf o'r arian ar gyfer y cynllun.”

Bydd y gwaith yn cychwyn ar y safle yn fuan ym mis Awst, a bydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2019.