Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ewch am rai ‘go iawn’ ac arbed cannoedd
Published: 29/04/2014
Wrth i’r cynlluniau ar gyfer Wythnos Clytiau Go Iawn eleni gael eu traed
danynt, mae Cyngor Sir y Fflint yn annog rhieni Cymru i ymuno â’r niferoedd
cynyddol sy’n defnyddio clytiau brethyn ‘go iawn’ ar eu babi.
Mae Wythnos Clytiau Go Iawn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal rhwng
28 Ebrill 28 a 4 Mai. Cefnogir y digwyddiad gan Ailgylchu dros Gymru a bydd yn
gweld awdurdodau lleol yn ymuno â manwerthwyr clytiau go iawn i ddangos i rieni
sut y gall clytiau golchadwy eu helpu i arbedarian yn ogystal â lleihau
gwastraff.
Bydd angen i’r babi cyffredin wisgo clytiau papur am ddwy flynedd a hanner,
cost o £650 i £1300*. Ar y llaw arall gallai Clytiau Go Iawn gostio ond £200*
(cost prynu) am yr un cyfnod o ddwy flynedd a hanner, gan fynd â’ch plentyn o’i
eni yr holl ffordd at hyfforddiant toiled. Gallai’r arbedion hyn ddechrau
cynyddu o ddifrif pan gaiff y clytiau eu hailddefnyddio ar blant diweddarach.
Mae clytiau go iawn modern yn hwyl, yn ffasiynol ac yn dod mewn amryw o
steiliau, cynlluniau a lliwiau, o ddenim i guddliw a phrintiau buwch i ryfflau.
Mae clytiau go iawn o les i’r amgylchedd hefyd, meddai llefarydd ar ran Cyngor
Sir y Fflint: “Mae clytiau papur yn gallu cymryd hyd at 500 mlynedd i
fioddiraddio, ond mae dim ond newid i glytiau brethyn yn lle rhai papur, yn
atal dros 4,000 o glytiau rhag mynd i dirlenwi”
“Mae clytiau brethyn yn feddal a chyfforddus i’w gwisgo, ac os dewiswch chi’r
clwt brethyn iawn ar gyfer siâp eich plentyn, maen nhw’n gollwng llawer llai na
rhai papur. “
Mae Cyngor Sir y Fflint, ynghyd â Chyngor Sir Ddinbych yn cynnig gwasanaeth
talebau i annog rhieni i ddefnyddio clytiau go iawn. Gellir defnyddio hyd at
werth £75 o dalebau fel rhan-daliad tuag at Glytiau Go Iawn neu Wasanaeth
Golchi Clytiau Go Iawn.
Bydd rhieni sy’n gymwys yn derbyn talebau gwerth £25 yr un i’w defnyddio pan
fydd eu babi’n 0-3 mis oed, yn 4-9 mis oed ac yn 10-18 mis oed. I gael mwy o
wybodaeth edrychwch ar daflen y Cynllun Cymhelliant Clytiau Go Iawn ar
http://www.flintshire.gov.uk
Ar hyd yr wythnos, bydd awdurdodau lleol yn cynnal sesiynau cyngor i roi cyfle
i rieni gael gwybod mwy am y gwahanol fathau o glytiau go iawn sydd ar gael a
gwybodaeth am fanteision eu defnyddio.
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi
cysylltwch â’ch awdurdod lleol, neu ewch i www.realnappies-wales.org.uk
neuwww.recycleforwales.org.uk