Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arddangosfa Egnin Llifo
Published: 04/12/2014
Prosiect Artistiaid Preswyl Melin Gelf a Chrefft
Treffynnon
Artistiaid Dawns a Cherddoriaeth Preswyl
Arddangosfa Egni’n Llifo
Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2pm tan 4pm
Bydd arddangosfa dawns a cherddoriaeth a grëwyd gan bobl ifanc yn Nhreffynnon
yn agor i’r cyhoedd ddydd Mercher 10 Rhagfyr ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon.
Bu’r ymarferwyr dawns cymunedol Dawns GDdC a’r cerddor Ynyr Llwyd yn gweithio
fel artistiaid preswyl ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon a’r ardal gyfagos.
Bu’r artisiaid yn gweithio gyda’r gymuned leol i greu dawnsfeydd a darnau o
gerddoriaeth. Bu’r artistiaid dawns a cherddoriaeth yn cydweithio’n agos ar yr
un thema Egni’n Llifo.
Roedd y cyfranogwyr yn dod o Ysgol Bryn Pennant (Blwyddyn 1),Ysgol Santes
Gwenffrewi (Blwyddyn 4), Ysgol Uwchradd Treffynnon (Blwyddyn 7 ac 8), Ysgol
Maesglas, Ysgol Bro Carmel a Chlwb Ieuenctid Maes Glas.
Meddai’r Cynghorydd Chris Bithell, Aelod o’r Cabinet dros Addysg:
“Mae Egni’n Llifo wedi bod yn brosiect gwych a chafodd bawb a gymerodd ran
brofiad creadigol hyfryd. Byddwn yn annog pawb i ddod i weld yr arddangosfa
sy’n agor i’r cyhoedd o ddydd Mercher 10 Rhagfyr tan ddydd Sul 14 Rhagfyr, 10am
tan 4pm, ym Melin Gelf a Chrefft Treffynnon.”
Ariennir y prosiect gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Mentrau
Cymunedol Gorllewin Sir y Fflint. Rheolir Melin Gelf a Chrefft Treffynnon gan
gwmni West Flintshire Community Enterprises Ltd.
Nodyn i Olygyddion
Fe’ch gwahoddir i anfon ffotograffydd i agoriad yr arddangosfa Egni’n Llifo am
2pm ddydd Mawrth 9 Rhagfyr. Cyswllt y wasg: Gwenno Jones
gwenno.e.jones@flintshire.gov.uk 01352 704400.