Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cydnabyddiaeth genedlaethol i wasanaethau iechyd meddwl Sir y Fflint

Published: 08/12/2014

Cafodd gwasanaethau iechyd meddwl rhagorol Sir y Fflint eu harddangos mewn cynhadledd genedlaethol yn Llundain. Clywodd gweithwyr proffesiynol gofal iechyd meddwl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig am brosiect Byw Bywydau Annibynnol syn cefnogi oedolion â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus. Mewn cyflwyniad ar y cyd esboniodd Sue Woods (Cyfarwyddwr Gwasanaeth Eiriolaeth Sir y Fflint), Neil Ayling (Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor) a Rhian Evans (Rheolwr Tîm) sut caiff ystod o wasanaethau eu teilwra i gefnogi unigolion iw helpu i fod yn fwy annibynnol a gweithgar yn eu cymunedau. Maer ymagwedd arloesol yma’n lleihau cost gwasanaethau iechyd meddwl. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rydw i’n falch fod gwaith Sir y Fflint wedi ei gydnabod yn genedlaethol yn dilyn ennill gwobr Gofal Cymdeithasol y llynedd. Mae ein hymagwedd wedi sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael mwy o gyfleoedd i wella annibyniaeth a lles. Rydym ni’n adeiladu ar y llwyddiant yma ac yn parhau i ddarparu gwasanaethau sydd ar flaen y gad o ran arfer da. Roedd derbyn gwahoddiad i siarad yn y gynhadledd genedlaethol yn gyfle gwych in swyddogion rannu arfer da ac arddangos eu llwyddiannau.